
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tiroedd Comin (Gorchmynion Dadgofrestru a Chyfnewid) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru, neu berson a benodwyd ganddynt, wedi caniatáu cais o dan adran 16 o Ddeddf 2006 ac wedi gwneud gorchymyn o dan adran 17 o Ddeddf 2006 o ganlyniad i ganiatáu'r cais hwnnw.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod cofrestru tiroedd comin” (“commons registration authority”) yw awdurdod cofrestru o dan Ddeddf 1965;
 ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
 ystyr “Cofnod Enghreifftiol” (“Model Entry”) a ddilynir gan rif yw'r cofnod enghreifftiol sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyffredinol neu Ran 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “Cofnod Safonol” (“Standard Entry”) a ddilynir gan rif yw'r cofnod enghreifftiol sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu gofnod sydd â'r un effaith o ran ei sylwedd;
 mae “cofrestr tir comin” (“register of common land”) a “cofrestr meysydd tref neu bentref” (“register of town or village greens”) yn cyfeirio at y cofrestri a gynhelir gan awdurdod cofrestru tiroedd comin yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1965;
 ystyr “gorchymyn dadgofrestru” (“deregistration order”) yw gorchymyn i awdurdod cofrestru tiroedd comin o dan adran 17(1) o Ddeddf 2006 (ac eithrio gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid);
 ystyr “gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid” (“deregistration and exchange order”) yw gorchymyn i awdurdod cofrestru tiroedd comin o dan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2006;
 ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966, ac ystyr “rheoliad Cyffredinol” (“General Regulation”) a ddilynir gan rif yw'r rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol;
 mae i “uned cofrestr” (“register unit”) yr ystyr a roddir i “register unit” yn Rheoliad Cyffredinol 10.
3 
Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn cael gorchymyn dadgofrestru neu orchymyn dadgofrestru a chyfnewid, rhaid iddo ddiwygio'r uned cofrestr sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir a ryddheir yn ei gofrestr o diroedd comin neu'i gofrestr o feysydd tref neu bentref, yn unol â Chofnod Safonol 11.
4 

(1) Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn cael gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid, mae darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y gorchymyn sy'n pennu'r modd y mae'r tir cyfnewid i gael ei gofrestru.
(2) Caiff yr awdurdod cofrestru gofrestru'r tir cyfnewid—
(a) drwy ddiwygio'r uned cofrestr yn ei gofrestr o dir comin neu'i gofrestr o feysydd tref neu bentref sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir rhyddhau; neu
(b) drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir cyfnewid.
(3) Os yw'r awdurdod cofrestru yn cofrestru'r tir cyfnewid drwy ddiwygio'r uned cofrestr sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir rhyddhau, rhaid i'r awdurdod wneud hynny yn unol â Chofnod Safonol 12.
(4) Os yw'r awdurdod cofrestru yn cofrestru'r tir cyfnewid drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir cyfnewid, mae paragraffau (5) i (9) yn gymwys.
(5) Rhaid i'r awdurdod cofrestru ddilyn Cofnod Enghreifftiol 4 mor agos ag y bo modd, gyda pha bynnag amrywiadau ac addasiadau sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau, a chan—
(a) rhoi'r geiriau “Registered pursuant to an order under section 17 of the Commons Act 2006.”, yn lle'r frawddeg sy'n dechrau “Registered pursuant to application”; a
(b) hepgor y geiriau “(Registration provisional.)”.
(6) Mae paragraffau (2) i (6) o Reoliad Cyffredinol 10 yn gymwys i'r cofrestriad.
(7) Mae paragraffau (4) i (8) o reoliad 9 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Gwrthwynebiadau a Mapiau) 1968 d(newidiadau o ran mapiau cofrestr amodol) yn gymwys, yn darostyngedig i'r addasiadau canlynol—
(a) rhaid dehongli cyfeiriadau at “new map” (“map newydd”) fel cyfeiriadau at unrhyw fap a gymerir i'w ddefnyddio at ddibenion y rheoliad hwn;
(b) yn hytrach na'r raddfa a bennir ym mharagraff (4), rhaid paratoi pob map newydd ar Fap Ordnans o raddfa ddim llai nag 1:2,500 os oes un ar gael, ac ym mhob achos, ddim llai nag 1:10,000; ac
(c) mae paragraff (7) yn gymwys fel pe bai'r gair “provisional” wedi ei hepgor.
(8) Rhaid i bob map newydd a gymerir i'w ddefnyddio gael ei stampio gan yr awdurdod cofrestru a'i lofnodi ar ran yr awdurdod, a bydd y map wedyn yn ffurfio rhan o'r gofrestr.
(9) Mae'r gofyniad ym mharagraff (8), am i awdurdod cofrestru stampio map newydd, yn ofyniad am beri bod argraff o stamp swyddogol yr awdurdod cofrestru, fel y'i disgrifir yn Rheoliad Cyffredinol 3, yn cael ei gosod ar y map, a rhaid i'r argraff honno gynnwys y dyddiad y'i gosodir.
5 

(1) Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin, yn unol â gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid, yn cofrestru tir cyfnewid drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir hwnnw, mae'r darpariaethau canlynol yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y gorchymyn sy'n pennu'r modd y mae hawliau comin i'w cofrestru fel rhai arferadwy dros y tir cyfnewid.
(2) Os oedd hawliau comin, yn union cyn dadgofrestru'r tir rhyddhau, wedi eu cofrestru fel rhai arferadwy dros y tir rhyddhau ac nid unrhyw dir arall, rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r hawliau hynny fel rhai arferadwy dros y tir cyfnewid, drwy ddilyn Cofnod Enghreifftiol 7 mor agos ag y bo modd, gyda pha bynnag amrywiadau ac addasiadau sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau, a chan hepgor o golofn 4 y geiriau o “except” ymlaen i'r diwedd.
(3) Os oedd hawliau comin, yn union cyn dadgofrestru'r tir rhyddhau, wedi eu cofrestru fel rhai arferadwy dros ddarn o dir a gyfansoddir o'r tir rhyddhau (Darn A) a thir arall (Darn B), rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r hawliau hynny fel rhai sy'n arferadwy dros y tir cyfnewid yn ychwanegol at barhau'n arferadwy dros Ddarn B, yn unol â Chofnodion Enghreifftiol 33 (mewn perthynas â Darn B) a 34 (mewn perthynas â'r tir cyfnewid) gyda pha bynnag amrywiadau ac addasiadau sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau.
6 
Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin wedi diwygio ei gofrestri yn unol â gorchymyn dadgofrestru neu orchymyn dadgofrestru a chyfnewid, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno, gan gynnwys manylion o'r diwygiad a wnaed, i'r canlynol—
(a) y ceisydd am y gorchymyn; a
(b) Gweinidogion Cymru, neu'r person a benodwyd ganddynt, a wnaeth y gorchymyn.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012
YR ATODLEN
Rheoliad 2
RHAN 1


RHAN 2

