
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a daw i rym ar 27 Mawrth 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn.
(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012 yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.
3 
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
4 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i etholiad cyffredin cynghorwyr cymuned i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn.
(2) Bydd etholiadau a fuasai, oni bai am y Gorchymyn hwn, wedi eu cynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned yn 2012 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2012 yn cael eu cynnal yn lle hynny ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr cymuned yn 2013 ac ym mhob pedwaredd flwyddyn wedi 2013.
5 
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2012