
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Mawrth 2012.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
3 
At ddibenion adran 1(3)(a) o'r Mesur, mae'r cwestiynau a'r ffurf y maent i gael eu gofyn ynddi wedi eu dangos yn yr Atodlen.
4 
At ddibenion adran 1(3)(b) o'r Mesur, rhaid i'r wybodaeth gael ei chrynhoi mewn taenlen electronig.
5 
At ddibenion adran 2(2) o'r Mesur, rhaid i'r wybodaeth a grynhowyd gael ei darparu i Weinidogion Cymru drwy daenlen electronig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2012
ATODLEN
Rheoliad 3



Rhif Cwestiwn  Ymateb (gweler y troednodyn ar ddiwedd y cwestiynau)
1 Yn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf, a wnaethoch ymgeisio am gael eich ethol i: (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol 
  • Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref 
2 Beth yw eich statws yn dilyn yr etholiad lleol? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Cynghorydd — Sir neu Fwrdeistref Sirol 
  • Cynghorydd — Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref 
  • Heb gael fy ethol 
3 Yn yr etholiad llywodraeth leol, pa blaid, os unrhyw un, yr oeddech yn ei chynrychioli? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Annibynnol 
  • Plaid Cymru 
  • Plaid Geidwadol Cymru 
  • Plaid Lafur Cymru 
  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 
  • Arall (nodwch os gwelwch yn dda) 
4 Ydych chi wedi ymgeisio am gael eich ethol i gyngor yn y gorffennol? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Ydw (Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol) 
  • Ydw (Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref) 
  • Nac ydw 
5 Ydych chi wedi gwasanaethu fel cynghorydd yn y gorffennol? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Ydw (Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol) 
  • Ydw (Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref) 
  • Nac ydw 
6 Os ydych, beth yw cyfanswm y blynyddoedd y buoch yn gwasanaethu fel cynghorydd? Cynhwyswch bob cyfnod y buoch yn gwasanaethu fel cynghorydd • Blynyddoedd fel cynghorydd sir neu gynghorydd bwrdeistref sirol 
  • Blynyddoedd fel cynghorydd cymuned neu gynghorydd tref 
7 Ydych chi'n: (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Wryw 
  • Benyw 
8 Ym mha grŵp oedran oeddech ar eich pen-blwydd diwethaf? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • 18—24 oed 
  • 25—29 oed 
  • 30—34 oed 
  • 35—39 oed 
  • 40—44 oed 
  • 45—49 oed 
  • 50—54 oed 
  • 55—59 oed 
  • 60—64 oed 
  • 65—69 oed 
  • 70—74 oed 
  • 75—79 oed 
  • 80 oed neu'n hŷn 
9 Beth yw eich grŵp ethnig? (rhowch dic fel y bo'n briodol) A. Gwyn 
  • Cymreig/ Seisnig/ Albanaidd/ Gwyddelig Gogledd Iwerddon/ Prydeinig 
  • Gwyddelig 
  • Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig 
  • Unrhyw gefndir gwyn arall — nodwch os gwelwch yn dda 
  B. Grwpiau cymysg/aml-ethnig 
  • Gwyn a Du Caribïaidd 
  • Gwyn a Du Affricanaidd 
  • Gwyn ac Asiaidd 
  • Unrhyw gefndir cymysg/ aml-ethnig arall — nodwch os gwelwch yn dda 
  C. Asiaidd/ Asiaidd Prydeinig 
  • Indiaidd 
  • Pacistanaidd 
  • Bangladeshaidd 
  • Tsieinïaidd 
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall — nodwch os gwelwch yn dda 
  CH. Du/ Affricanaidd/ Caribïaidd/ Du Prydeinig 
  • Affricanaidd 
  • Caribïaidd 
  • Unrhyw gefndir Du/ Affricanaidd/ Caribïaidd arall — nodwch os gwelwch yn dda 
  D. Grŵp ethnig arall 
  • Arabaidd 
  • Unrhyw grŵp ethnig arall — nodwch os gwelwch yn dda 
10 Beth yw eich crefydd? • Dim crefydd 
  • Cristion (pob enwad) 
  • Bwdhydd 
  • Hindŵ 
  • Iddew 
  • Mwslim 
  • Sikh 
  • Unrhyw grefydd arall — nodwch os gwelwch yn dda 
11 Ydych chi'n eich ystyried eich hun yn: (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Heterorywiol neu strêt 
  • Hoyw neu lesbiaidd 
  • Deurywiol 
  • Arall 
12 Beth yw eich statws cyflogaeth? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Hunangy— flogedig 
  • Mewn cyflogaeth lawnamser 
  • Mewn cyflogaeth ran-amser 
  • Di-waith 
  • Wedi ymddeol 
  • Ar absenoldeb mamolaeth 
  • Yn gofalu am deulu neu gartref 
  • Myfyriwr/aig llawnamser 
  • Sâl hirdymor neu anabl 
  • Ar un o gynlluniau hyfforddi'r llywodraeth 
  • Gweithiwr/aig di-dâl mewn busnes teuluol 
  • Gofalwr di-dâl 
  • Yn gwneud rhywbeth arall (nodwch os gwelwch yn dda) 
13 Pa gategori sy'n disgrifio orau eich sector cyflogaeth cyfredol neu ddiweddaraf? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Llywodraeth leol 
  • Llywodraeth ganolog 
  • Y GIG 
  • Addysg 
  • Arall yn y sector cyhoeddus 
  • Y sector preifat 
  • Y sector gwirfoddol 
  • Arall (nodwch os gwelwch yn dda) 
14 Os yw'ch statws yn un cyflogedig, pa gategori sy'n disgrifio orau eich math o gyflogaeth? • Rheolwr neu swyddog gweithredol 
  • Proffesiynol neu dechnegol 
  • Darlithydd, athro neu ymchwilydd 
  • Gweinyddol, clercol, ysgrifenyddol neu werthu 
  • Gwaith llaw neu grefft 
15 Oes gennych chi gyfrifoldeb rhiant am blentyn 16 oed neu'n iau? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Oes 
  • Nac oes 
16 Ydych chi wedi rhoi cymorth di-dâl i unrhyw un o'r mathau hyn o grŵp neu sefydliad ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis diwethaf? Er enghraifft, fel gwirfoddolwr, ymddiriedolwr neu aelod o fwrdd (rhowch dic yn erbyn pob un sy'n berthnasol) • Addysg plant / ysgolion 
  • Gweithgareddau ieuenctid/plant (y tu allan i'r ysgol) 
  • Addysg i oedolion 
  • Chwaraeon neu ymarfer corff (e.e. hyfforddi) 
  • Grŵp crefyddol neu grŵp ffydd 
  • Grŵp ar sail rhywedd 
  • Grŵp rhywioldeb 
  • Plaid wleidyddol 
  • Grŵp iechyd, anabledd eu les cymdeithasol 
  • Yr henoed 
  • Cymorth Cyntaf 
  • Grŵp amgylchedd 
  • Grŵp lles anifeiliaid 
  • Cyfiawnder a Hawliau Dynol 
  • Grŵp cymunedol neu grŵp cymdogaeth 
  • Grŵp dinasyddion 
  • Clwb cymdeithasol 
  • Undeb Llafur 
  • Arall (nodwch os gwelwch yn dda) 
  • Dim 
17 Beth yw eich cymhwyster addysgol uchaf? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Dim 
  • Lefel “O”, TGAU, TAU, NVQ 1/2 neu gyfwerth 
  • Lefel “A”, NVQ 3 neu gyfwerth 
  • NVQ lefel 4 neu gyfwerth 
  • Gradd Sylfaen neu Gyffredin 
  • NVQ lefel 5 
  • Diploma Cenedlaethol Uwch a Thystysgrif Genedlaethol Uwch 
  • Gradd Anrhydedd 
  • Cymhwyster Meistr/ Ôl-raddedig 
  • Cymhwyster proffesiynol (e.e. cyfrifyddiaeth) 
18 Sut mae eich iechyd corfforol yn gyffredinol? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Da iawn 
  • Da 
  • Gweddol 
  • Gwael 
  • Gwael iawn 
19 Sut mae eich iechyd meddwl yn gyffredinol? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Da iawn 
  • Da 
  • Gweddol 
  • Gwael 
  • Gwael iawn 
20 Ydych chi'n eich ystyried eich hun yn berson anabl? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Ydw 
  • Nac ydw 
 Os ydych, oes gennych chi:  
 Nam corfforol  
 Nam ar y synhwyrau  
 Anabledd dysgu  
 Problem iechyd meddwl  
 Cyflwr iechyd hirdymor  
 Arall (nodwch os gwelwch yn dda)  
21 Os ydych, a yw'r salwch neu anabledd hwn yn cyfyngu ar eich gweithgareddau mewn unrhyw fodd? (rhowch dic fel y bo'n briodol) • Ydy 
  • Nac ydy 
22 Allwch chi ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg? (rhowch dic yn erbyn pob un sy'n berthnasol) • Yn deall Cymraeg llafar 
  • Yn siarad Cymraeg 
  • Yn darllen Cymraeg 
  • Yn ysgrifennu Cymraeg 
  • Dim un o'r uchod 
23 Beth yw eich prif iaith? (rhowch dic yn erbyn pob un sy'n berthnasol) • Saesneg 
  • Cymraeg 
  • Arall, nodwch os gwelwch yn dda (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain) 
 Noder nad oes rhaid i chi ateb pob un o'r cwestiynau uchod nac ateb unrhyw un ohonynt.
