
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
2 
Diwygir Rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£52.90” rhodder “£54.20”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£13.70” rhodder “£14.00”.
3 

(1) Diwygir Atodlenni 1 i 3 i'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau a wynebwerthoedd talebau — cyflenwi ac ailosod), yng ngholofn (3) o'r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod:

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£36.20 £37.10
£55.10 £56.40
£80.60 £82.60
£182.00 £186.50
£62.70 £64.20
£79.70 £81.60
£103.30 £105.80
£200.10 £205.10
£186.40 £191.00
£52.90 £54.20
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£11.80” rhodder “£12.10;
(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle “£14.20” rhodder “£14.60 ”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.00” rhodder “£4.10 ”;
(d) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.50” rhodder “£4.60 ”;
(e) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£59.70”, “£52.90” a “£28.60” rhodder “£61.20”, “£54.20” a “£29.30” yn eu trefn;
(f) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£59.70” rhodder “£61.20 ”;
(g) ym mharagraff 2(a), yn lle “£13.70” rhodder “£14.00 ”; a
(h) ym mharagraff 2(b), yn lle “£34.60” rhodder “£35.50 ”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
4 
Nid yw'r symiau newydd a amnewidir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys ac eithrio mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2012
ATODLEN
Rheoliad 3(4)

“
SCHEDULE 3
Regulation 19(2) and (3)


(1) (2)
Nature of Repair Letter of Codes — Values
 A B C D E F G H I
 £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 11.55 21.20 34.30 86.25 25.10 33.80 45.90 95.55 88.50
Repair or replacement of two lenses 23.10 42.40 68.60 172.50 50.20 67.60 91.80 191.10 177.00
Repair or replacement of:         
The front of a frame 11.90 11.90 11.90 11.90 11.90 11.90 11.90 11.90 11.90
A side of a frame 7.05 7.05 7.05 7.05 7.05 7.05 7.05 7.05 7.05
The whole frame 14.00 14.00 14.00 14.00 14.00 14.00 14.00 14.00 14.00”.
