
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac yn dod i rym ar 3 Ionawr 2013.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 7 rhodder—“
7 
Y cyfraddau yn nhrydedd golofn yr Atodlen yw'r modiwleiddio gwirfoddol y cyfeirir ato yn Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 378/2007 sy'n pennu rheolau ar gyfer modiwleiddio yn wirfoddol y taliadau uniongyrchol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 am y cyfnod 2009 i 2012 a'r addasiad gwirfoddol y cyfeirir ato yn Erthygl 10b o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 ar gyfer 2013.”
(3) Yn yr Atodlen—
(a) yn y tabl â'r pennawd “Ar gyfer symiau hyd at a chan gynnwys £5,000” ar ôl y rhes sy'n ymwneud â 2012, mewnosoder—“
2013 0% 6.5% 6.5%”;
(b) yn y tabl â'r pennawd “Ar gyfer symiau dros £5,000 a hyd at a chan gynnwys £300,000”, ar ôl y rhes sy'n ymwneud â 2012, mewnosoder—“
2013 10% 1.5% 11.5%” ; ac
(c) yn y tabl â'r pennawd “Ar gyfer symiau dros £300,000”, ar ôl y rhes sy'n ymwneud â 2012, mewnosoder—“
2013 14% 0% 14%”.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2012