
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 26 Rhagfyr 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;
 ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y ddwy wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999, ac wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol;
 ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at ddiben asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o'r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2012, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd yn hectar cymwys yn 2011 (gweler cofnod 5 yng ngholofn 1), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2012, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
3 
Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2012
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Y Defnydd Ffermio Yr uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 400
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch −163
 ar dir arall buwch −146
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen −92
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 102
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog −13
 ar dir arall mamog −7
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 4.50
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 235
 moch porc y pen 8.30
 moch torri y pen 11.60
 moch bacwn y pen 14.70
Dofednod: ieir dodwy aderyn 3.60
 brwyliaid aderyn 0.30
 cywennod ar ddodwy aderyn 0.60
Tyrcwn Nadolig aderyn 5.30
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 147
Ffa hectar 155
Rêp had olew hectar 293
Pys sych hectar 297
Tatws: cynnar cyntaf hectar 1405
 prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 2475
Betys siwgr hectar 297
Gwenith hectar 421
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllan hectar 2700
Ffrwythau meddal hectar 7750
4. Tir porthiant
Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynydd hectar swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2011, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009 tir dan anfantais ddifrifol hectar 113.61
 tir dan anfantais hectar 149.05
 pob tir arall hectar 97.34

