
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012. Daw i rym ar 17 Rhagfyr 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae'r trapiau sbring canlynol wedi eu cymeradwyo, sef—
(a) unrhyw drap sbring—
(i) o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen; a
(ii) sy'n cael ei weithgynhyrchu neu a gafodd ei weithgynhyrchu gan neu o dan awdurdod y person neu y cwmni a bennir yn y cofnod hwnnw; a
(b) unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen.
(2) Mae'r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) o'r erthygl hon sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen, ac sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring a bennir felly, yn ddarostyngedig i'r amodau o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen mewn perthynas â hwy, a'r amgylchiadau y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen oddi tanynt.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw'n cyfateb i'r trap sbring a bennir felly o ran adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy'n berthnasol i'w effaith neu i'w fodd o weithredu fel trap.
3 
Mae Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2010 wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
21 Tachwedd 2012
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn (1) Colofn (2)
Y math o drap a'i wneuthuriad Amodau
Aldrich Spring Activated Animal Snare — gweithgynhyrchydd: Mr D Schimetz, PO Box 158, Sekiu, Washington 98381, UDA. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cigysyddion mawr, mamalaidd, anghynhenid.
 Rhaid defnyddio'r trap yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
BMI Magnum 55 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA. Ni ddefnyddir y trap ond a ddiben lladd neu ddal llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
BMI Magnum 110 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
BMI Magnum 116 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
DOC 150 — gweithgynhyrchydd: the Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
DOC 200 — gweithgynhyrchydd: the Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
DOC 250 — gweithgynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
Fenn Rabbit Trap Mark I — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cwningod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fenn Vermin Trap Mark I, Vermin Trap Mark II, Vermin Trap Mark III a Vermin Trap Mark IV (Heavy Duty) — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trapiau mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fenn Vermin Trap Mark VI (Dual Purpose) — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, Hoopers Lane, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fuller Trap — gweithgynhyrchydd: Fuller Industries, Three Trees, Loxwood Road, Bucks Green, Rudgwick, Sussex. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid i'r trap fod wedi ei ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Imbra Trap Mark I a Mark II — gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 682,427 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 4 o'r Fanyleb honno. Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trapiau mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Juby Trap — gweithgynhyrchydd: y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Whitehall Place, London SW1 ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 813,066 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Kania Trap 2000 — gweithgynhyrchydd: C E Kania Corporation, 124-21, 10405, Jasper Avenue, Edmonton, Alberta, Canada. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid i'r trap fod wedi ei ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Kania Trap 2500 — gweithgynhyrchydd: Kania Industries Inc, 63 Centennial Road, Nanaimo, British Columbia, Canada, V9R 6N6. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis), gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Lloyd Trap — gweithgynhyrchydd: the National Research Corporation, ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 987,113 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Nooski Rat Trap — gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod mawr. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Nooski Mouse Trap — gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Sawyer Trap — gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Skinns Superior Squirrel Trap — gweithgynhyrchydd: E.Skinns Ltd, Witham Road, Woodhall Spa, Lincolnshire, LN10 6QX. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Solway Spring Trap Mk 4 — gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis), gwiwerod llwyd, llygod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Solway Spring Trap Mk 6 — gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis), gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Springer No 4 Multi-purpose (Heavy Duty) — gweithgynhyrchydd: AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Springer No 6 Multi-purpose — gweithgynhyrchydd: AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
VS Squirrel Trap — gweithgynhyrchydd: Pescon Services, 394 York Road, Stevenage, Hertfordshire, SG1 4EN Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
WCS Collarum — gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, Connecticut 06026, UDA. Ni ddefnyddir y trap ond at y diben o atal llwynogod.
WCS Tube Trap — gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, Connecticut 06026, UDA. Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
Wise Trap 110, 160, 200 a 250 — gweithgynhyrchydd: WiseCon A/S, Skovgaardsvej 25, DK-3200 Selsinge, Denmarc. Ni ddefnyddir y trapiau ond at y diben o ladd llygod mawr. Rhaid gosod y trapiau mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg, a rhaid eu defnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.