
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (llygru dyfroedd a reolir)—
(a) yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir, ac o ganlyniad—
(i) nid yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (dosbarthu ansawdd dyfroedd); neu
(ii) ar gyfer dyfroedd a reolir sydd wedi eu dynodi fel ardaloedd gwarchodedig o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi dŵr, nid yw'r dyfroedd hynny yn bodloni'r amcanion amgylcheddol sy'n gymwys iddynt o dan y Gyfarwyddeb honno (ac eithrio'r ardaloedd gwarchodedig a restrir ym mharagraffau (i), (iv) a (v) o Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb honno); neu”; a
(b) ym mharagraff (c)(ii), yn lle “o fewn strata tanddaearol”, rhodder “mewn strata tanddaearol o fewn y parth dirlawnder”.
(3) Yn rheoliad 11 (addasu hysbysiad adfer), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Dim ond mewn perthynas ag apelau a wneir yn unol â rheoliad 8(1) cyn 6 Ebrill 2012 y mae'r rheoliad hwn yn gymwys.”
(4) Yn Atodlen 2 (iawndal am hawliau mynediad etc)—
(a) ym mharagraff 5(3) yn lle “Tribiwnlys Tiroedd” rhodder “Uwch Dribiwnlys”;
(b) ym mharagraffau 6(2)(c) a 6(3) yn lle “y Tribiwnlys Tiroedd” rhodder “yr Uwch Dribiwnlys”; ac
(c) yn lle paragraff 6(4), rhodder—“
(4) Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn o'r fath, mae adran 4 o Ddeddf 1961 (costau) i'w chymhwyso fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a) bod y cyfeiriad at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn;
(b) bod y cyfeiriadau at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol; ac
(c) bod cyfeiriadau at yr hawlydd yn gyfeiriadau at y grantwr.”
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2012