
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Chwefror 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen, yn y golofn ar yr ochr dde (Awdurdodau Lleol) yn y testun Cymraeg, gyferbyn â “Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr” yn y golofn ar yr ochr chwith (Bwrdd Iechyd Lleol), ar ôl “Sir y Fflint” mewnosoder “, Gwynedd”.
3 
Mae rheoliad 9(7) o Reoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2012