
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithrediadau Llusgrwydo Cregyn Bylchog (Dyfeisiau Olrhain) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 1 Tachwedd 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cregyn bylchog” (“scallop”) yw pysgod cregyn o rywogaeth Pecten maximus;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “derbynnydd enwebedig” (“nominated receiver”) yw'r corff a enwebir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd i gael yr wybodaeth ofynnol wedi ei throsglwyddo drwy ddyfais olrhain yn unol â'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “dyfais olrhain” (“tracking device”) yw dyfais a all drosglwyddo'r wybodaeth ofynnol;
 mae “llusgrwyd cregyn bylchog” (“scallop dredge”) yn cynnwys unrhyw gyfarpar ac iddo ffrâm anhyblyg yn enau, a lusgir drwy'r dŵr ac a weithgynhyrchir, a addesir, a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio at ddiben pysgota am gregyn bylchog;
 mae i “llythrennau porthladd” yr ystyr a roddir i “port letters” yn rheoliad 1 o Reoliadau Llongau Masnachol (Cofrestru Llongau) 1993;
 ystyr “person sydd â gofal” (“person in charge”), mewn perthynas â chwch pysgota Prydeinig, yw perchennog, meistr neu siartrwr, os oes un, y cwch pysgota Prydeinig neu asiant unrhyw un ohonynt;
 mae i “rhif porthladd” yr ystyr a roddir i “port number” yn rheoliad 1 o Reoliadau Llongau Masnachol (Cofrestru Llongau) 1993;
 ystyr “WGS 84” (“WGS 84”) yw System Geodesig y Byd a ddiwygiwyd ym 1984 ac a ddiwygiwyd ymhellach yn 2004; ac
 ystyr “yr wybodaeth ofynnol” (“required information”) yw'r wybodaeth a nodir yn erthygl 5.
3 
Yn ddarostyngedig i erthygl 4, rhaid i unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd â llusgrwyd cregyn bylchog arno—
(a) bod â dyfais olrhain wedi ei gosod ar y cwch hwnnw; a
(b) trosglwyddo'r wybodaeth ofynnol i'r derbynnydd enwebedig o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeng munud tra bydd y cwch hwnnw ar y môr.
4 
Nid yw erthygl 3 yn gymwys i gwch pysgota Prydeinig—
(a) nad yw'n cyflawni unrhyw weithrediad pysgota yng Nghymru mewn perthynas â chregyn bylchog; a
(b) y mae pob llusgrwyd cregyn bylchog sydd wedi ei chysylltu â'r cwch hwnnw wedi ei stowio a'i diogelu y tu allan i'r dŵr.
5 
Yr wybodaeth ofynnol yw—
(a) y llythrennau porthladd a'r rhif porthladd sy'n ymwneud â'r cwch pysgota Prydeinig sy'n trosglwyddo'r wybodaeth ofynnol;
(b) safle daearyddol diweddaraf y cwch hwnnw gan ddefnyddio cyfesurynnau lledred a hydred ar yr WGS 84, gyda chyfeiliornad safle o lai na 10 metr;
(c) y dyddiad a'r amser pan bennwyd safle daearyddol y cwch hwnnw; a
(d) cyflymder a llwybr y cwch hwnnw y pryd hynny.
6 

(1) Os na all dyfais olrhain sydd wedi ei gosod yn unol ag erthygl 3 drosglwyddo'r wybodaeth ofynnol, rhaid i'r person sydd â gofal dros y cwch pysgota Prydeinig y mae'r ddyfais olrhain honno wedi ei gosod arno—
(a) sicrhau na ddefnyddir y cwch hwnnw i bysgota am gregyn bylchog; a
(b) hysbysu Gweinidogion Cymru na all y ddyfais olrhain drosglwyddo'r wybodaeth ofynnol.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)(b) gynnwys llythrennau porthladd a rhif porthladd y cwch pysgota Prydeinig y mae'r ddyfais olrhain berthnasol wedi ei gosod arno.
(3) Pan fydd dyfais olrhain y mae paragraff (1) yn gymwys iddi wedi ei hatgyweirio neu ei hamnewid fel y gall y cwch pysgota Prydeinig y gosodwyd y ddyfais honno arno drosglwyddo'r wybodaeth ofynnol yn unol ag erthygl 3, rhaid i'r person sydd â gofal dros y cwch hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru y gall y cwch hwnnw gydymffurfio ag erthygl 3 cyn y caniateir defnyddio'r cwch hwnnw i bysgota am gregyn bylchog, eu cymryd neu eu lladd.
7 

(1) Rhaid i'r person sydd â gofal dros gwch pysgota Prydeinig y mae dyfais olrhain wedi ei gosod arno yn unol ag erthygl 3 sicrhau—
(a) na ellir cymryd rheolaeth â llaw o'r ddyfais olrhain sydd wedi ei gosod;
(b) na all y ddyfais olrhain drosglwyddo gwybodaeth anwir;
(c) na chaiff yr wybodaeth ofynnol ei newid mewn unrhyw ffordd;
(d) na rwystrir unrhyw antena neu'r antenâu sy'n gysylltiedig â'r ddyfais olrhain mewn unrhyw ffordd; ac
(e) na thorrir y cyflenwad pŵer i'r ddyfais olrhain mewn unrhyw ffordd.
(2) At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “gwybodaeth” (“information”) yw unrhyw wybodaeth sy'n rhan o'r wybodaeth ofynnol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), gwaherddir dinistrio dyfais olrhain sydd wedi ei gosod at ddibenion erthygl 3, ei difrodi, ei gwneud yn anweithredol, ei symud ymaith neu ymyrryd arni fel arall.
(4) Rhaid i'r person sydd â gofal dros gwch pysgota Prydeinig sicrhau y caiff unrhyw gregyn bylchog a ddelir neu a gymerir ar y cwch hwnnw yn groes i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn eu dychwelyd i'r môr cyn gynted â phosibl.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
30 Hydref 2012