
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 19 Tachwedd 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddir ar ôl 19 Tachwedd 2012 mewn perthynas â chytundeb—
(a) ar gyfer gosod cartref symudol ar safle gwarchodedig yng Nghymru, a
(b) y bydd Deddf Cartrefi Symudol 1983 yn gymwys iddo.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw'r datganiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol i berchennog safle gwarchodedig ei roi i'r darpar feddiannydd o dan adran 1(2) o Ddeddf 1983;
 ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983.
3 
Y gofynion y mae'n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 1(2) o Ddeddf 1983 (yn ychwanegol at ofynion adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983) yw—
(a) fod yn rhaid iddo gynnwys—
(i) y nodyn sy'n rhagflaenu Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, a
(ii) yr wybodaeth a grybwyllir yn Rhannau 1 i 3 o'r Atodlen honno (i'r graddau nad ydynt eisoes yn ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983), a
(b) fod yn rhaid iddo fod yn y ffurf a geir yn yr Atodlen honno neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
4 
Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007 wedi eu dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2012
YR ATODLEN
Rheoliad 3
