
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 16 Tachwedd 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Cydweithio rhwng Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2008; a
(b) Rheoliadau Trefniadau Cydlafurio (Ysgolion a Gynhelir a Chyrff Addysg Bellach) (Cymru) 2008.
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod nad yw'n llywodraethwr” (“non governor member”) yw person a benodwyd gan gyd-bwyllgor i fod yn aelod ohono ond nad yw'n aelod o gorff llywodraethu sy'n cydlafurio, neu gorff addysg bellach ac nad yw'n aelod awdurdod lleol;
 ystyr “aelod awdurdod lleol” (“local authority member”) yw person a benodwyd gan awdurdod lleol i fod yn aelod o gyd-bwyllgor;
 ystyr “offeryn ac erthyglau” (“instrument and articles”), mewn perthynas â chorff addysg bellach, yw'r offeryn ac erthyglau llywodraethu sydd mewn grym o dan adran 22 neu 29 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn ôl fel y digwydd;
 ystyr “y penadur” (“the principal”) yw penadur corff addysg bellach sy'n cydlafurio neu unrhyw berson sy'n gweithredu fel penadur;
 ystyr “pennaeth” (“head teacher”) yw pennaeth ysgol y mae ei chorff llywodraethu yn gorff addysg sy'n cydlafurio;
 ystyr “prif swyddog addysg” (“chief education officer”) yw person sydd wedi ei benodi i'r swydd honno yn unol ag adran 532 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “y Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir” (“the Federation of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010;
 ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir” (“the Government of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005; ac
 ystyr “y Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir” (“the Staffing of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff addysg bellach yn gyfeiriad at gorff a ddisgrifir yn adran 1(c) a (d) o Fesur Addysg (Cymru) 2011.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir.
4 

(1) Pan fo'r corff addysg sy'n cydlafurio—
(a) yn gorff llywodraethu, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gyd-bwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo i bwyllgor o dan reoliad 50 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir neu reoliad 59 o'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir;
(b) yn gorff addysg bellach, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gyd-bwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo i bwyllgor o dan ddarpariaethau perthnasol ei offeryn ac erthyglau; neu
(c) yn awdurdod lleol, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gyd-bwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo i bwyllgor o dan ei gyfansoddiad.
(2) Yn unol â'r Rheoliadau hyn ni chaiff corff addysg ddirprwyo i gyd-bwyllgor unrhyw un o'i swyddogaethau o ran—
(a) penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, personau a gyflogir o dan gontract cyflogaeth gan awdurdod lleol;
(b) diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, personau a gyflogir o dan gontract cyflogaeth gan gorff addysg bellach;
(c) diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, staff yr ysgol yn y Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir; neu
(d) disgyblu disgybl neu fyfyriwr.
(3) Pan fo corff addysg bellach yn dirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau sy'n ymwneud ag aelodau unigol o staff y corff addysg bellach i gyd-bwyllgor, mae darpariaethau perthnasol ei offeryn ac erthyglau yn gymwys o ran cyflawni'r swyddogaethau hynny.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, yn rheoliadau 50 i 52 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir a rheoliadau 59 i 61 o'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir—
(a) ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw cyd-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(b) ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw aelod ac eithrio aelod o gyd-bwyllgor nad yw'n llywodraethwr a hwnnw'n gyd-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac
(c) ystyr “pennaeth” (“head teacher”) yw pennaeth unrhyw un o'r ysgolion y mae ei chorff llywodraethu yn gorff addysg sy'n cydlafurio.
5 

(1) Rhaid i'r cyrff addysg sy'n cydlafurio benderfynu, ac adolygu'n flynyddol, y cyfansoddiad, y cylch gorchwyl ac (yn ddarostyngedig i reoliad 7) aelodaeth unrhyw gyd-bwyllgor y maent yn penderfynu eu sefydlu.
(2) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r cyd-bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif llawn) aelodaeth y cyd-bwyllgor heb gynnwys unrhyw swyddi gwag nac unrhyw aelodau a gafodd eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 8.
(3) Rhaid i gyd-bwyllgor benodi cadeirydd yn flynyddol a chaniateir symud ei gadeirydd o'i swydd ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i gyd-bwyllgor ethol aelod o'r cyd-bwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).
(5) Ni chaiff y canlynol weithredu fel cadeirydd cyd-bwyllgor—
(a) person sy'n cael ei gyflogi i weithio mewn ysgol, yr awdurdod lleol neu gorff addysg bellach,
(b) disgybl cofrestredig mewn ysgol, neu
(c) myfyriwr sy'n dilyn cwrs astudio addysg bellach llawnamser neu ran-amser mewn corff addysg bellach.
(6) Caniateir i aelodaeth cyd-bwyllgor gynnwys aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr ac mae i ba raddau y mae gan y cyfryw aelodau hawl i bleidleisio yn fater i'w benderfynu gan y cyd-bwyllgor.
(7) Rhaid i aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr beidio â ffurfio'r mwyafrif o'r aelodau ar gyd-bwyllgor ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt.
6 

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor benodi clerc a chaniateir iddo symud y clerc o'i swydd ar unrhyw adeg.
(2) Caiff cyd-bwyllgor, os bydd y clerc yn methu â bod yn bresennol yn un o'i gyfarfodydd, benodi unrhyw un o'i aelodau i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(3) Rhaid i'r clerc a benodwyd o dan baragraff (1) neu (2) beidio â bod—
(a) yn bennaeth; neu
(b) yn benadur.
(4) Rhaid i'r clerc—
(a) cynnull cyfarfodydd y cyd-bwyllgor;
(b) mynychu cyfarfodydd y cyd-bwyllgor a sicrhau bod cofnodion o'r trafodion yn cael eu llunio; ac
(c) cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a benderfynir gan y cyd-bwyllgor.
7 

(1) Bydd aelod nad yw'n llywodraethwr yn parhau yn ei swydd hyd nes iddo gael ei symud ohoni yn unol â rheoliad 5(1) neu baragraff (5).
(2) Mae unrhyw berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr o dan reoliad 24 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 12 o Atodlen 5 iddynt, neu o dan reoliad 32 o'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 12 o Atodlen 7 iddynt, wedi ei anghymhwyso rhag dal, neu rhag parhau i ddal, swydd fel aelod nad yw'n llywodraethwr o gyd-bwyllgor.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) rhaid i'r cyrff addysg sy'n cydlafurio benderfynu hawliau pleidleisio aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr.
(4) Rhaid i aelod nad yw'n llywodraethwr beidio â phleidleisio ar unrhyw benderfyniad ynghylch y canlynol—
(a) disgybl unigol neu aelod unigol o'r staff os cafodd yr aelod nad yw'n llywodraethwr ei wahardd o dan reoliad 8(2) o'r rhan honno o'r cyfarfod pan gafodd y mater ei ystyried;
(b) cyllideb ac ymrwymiadau ariannol corff addysg sy'n cydlafurio; neu
(c) derbyniadau.
(5) Caniateir i gyd-bwyllgor symud aelod nad yw'n llywodraethwr o'i swydd ar unrhyw adeg.
8 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 10 ac i'r Atodlen mae gan y personau canlynol hawl i fynychu unrhyw gyfarfod cyd-bwyllgor—
(a) unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor, ar yr amod nad yw'r aelod yn aelod o gorff llywodraethu sydd wedi ei atal yn unol â rheoliad 49 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir neu reoliad 58 o'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir;
(b) pennaeth, p'un a yw'r pennaeth hwnnw'n aelod o'r cyd-bwyllgor ai peidio;
(c) penadur corff addysg bellach sy'n cydlafurio, p'un a yw'r person hwnnw'n aelod o'r cyd-bwyllgor ai peidio;
(d) clerc y cyd-bwyllgor;
(e) prif swyddog addysg awdurdod lleol sydd â chorff addysg sy'n cydlafurio yn ei ardal neu gynrychiolydd y person hwnnw; ac
(f) unrhyw bersonau eraill y bydd y cyd-bwyllgor yn penderfynu arnynt.
(2) Caniateir i gyd-bwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod pan fo'r busnes sydd o dan ystyriaeth yn fusnes ynghylch—
(a) aelod unigol o'r staff,
(b) disgybl neu fyfyriwr unigol, neu
(c) derbyniadau.
(3) Caniateir i gyd-bwyllgor wahardd aelod awdurdod lleol o unrhyw ran o'i gyfarfod pan fo'r busnes sydd o dan ystyriaeth yn fusnes ynghylch—
(a) aelod unigol o'r staff, neu
(b) disgybl neu fyfyriwr unigol.
9 

(1) Rhaid i'r clerc gynnull cyfarfodydd y cyd-bwyllgor, a phan fydd yn arfer y swyddogaeth hon, rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—
(a) y cyd-bwyllgor; neu
(b) cadeirydd y cyd-bwyllgor, i'r graddau nad yw'r cyfarwyddyd hwnnw'n anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan is-baragraff (a).
(2) Pan na fydd clerc wedi ei benodi, rhaid i'r cadeirydd gynnull cyfarfodydd y cyd-bwyllgor a rhaid iddo, pan fydd yn arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y cyd-bwyllgor.
(3) Rhaid i'r clerc ddarparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (4) i—
(a) pob aelod o'r cyd-bwyllgor; a
(b) penaethiaid a phenaduriaid y cyrff addysg sy'n cydlafurio (p'un a ydynt yn aelodau o'r cyd-bwyllgor ai peidio).
(4) Dyma'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu yn unol â pharagraff (3)—
(a) hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod;
(b) copi o'r agenda ar gyfer y cyfarfod; ac
(c)  unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod.
(5) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraff (1), rhaid rhoi'r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4) o leiaf bum niwrnod clir cyn y cyfarfod.
(6) Pan fo cadeirydd y cyd-bwyllgor yn penderfynu felly ar y sail bod materion y mae gofyn eu hystyried ar fyrder, bydd yn ddigonol os bydd yr hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod yn datgan y ffaith honno a bod yr hysbysiad, yr agenda a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod yn cael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd y clerc.
(7) Nid yw trafodion cyd-bwyllgor yn cael eu hannilysu gan y canlynol—
(a) unrhyw swydd wag ymhlith aelodau'r cyd-bwyllgor; neu
(b) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor.
(8) Ni chaniateir pleidleisio ar unrhyw fater mewn cyfarfod cyd-bwyllgor onid yw mwyafrif aelodau'r cyd-bwyllgor sy'n bresennol yn aelodau o gorff addysg sy'n cydlafurio ac eithrio aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr.
(9) Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod cyd-bwyllgor gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau aelodau'r cyd-bwyllgor sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn.
(10) Pan fo pleidleisiau'n rhannu'n gyfartal mae gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y person hwnnw yn aelod o gorff addysg sy'n cydlafurio ac eithrio aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr.
10 

(1) Yn y rheoliad hwn a'r Atodlen ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a) aelod o'r cyd-bwyllgor,
(b) pennaeth (p'un a yw'r person hwnnw'n aelod o'r cyd-bwyllgor ai peidio),
(c) penadur corff addysg sy'n cydlafurio (p'un a yw'r person hwnnw'n aelod o'r cyd-bwyllgor ai peidio),
(d) clerc y cyd-bwyllgor, ac
(e) unrhyw berson y rhoddwyd caniatâd iddo fynychu un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 8(1)(f).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
(a) os gall gwrthdaro ddigwydd ynghylch unrhyw fater rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau corff addysg sy'n cydweithredu;
(b) os bydd gwrandawiad teg yn ofynnol a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd ynglŷn ag unrhyw fater; neu
(c) os bydd gan berson perthnasol fuddiant ariannol yn unrhyw fater;
rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor pan fydd y mater yn destun ystyriaeth, ddatgelu ei fuddiant, ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater o dan sylw.
(3) Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth yn y rheoliad hwn neu yn yr Atodlen mewn modd a fyddai'n atal—
(a) y cydbwyllgor rhag—
(i) caniatáu i berson y mae'n ymddangos iddo ei fod yn gallu rhoi tystiolaeth i fynychu unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddo i unrhyw fater a chyflwyno'i dystiolaeth; neu
(ii) gwrando ar sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth heblaw person perthnasol; neu
(b) person perthnasol rhag ymrwymo mewn contract â chorff addysg sy'n cydlafurio y mae ganddo'r hawl i elwa ohono.
(4) Nid yw'n ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc mewn cyfarfod cyd-bwyllgor ymneilltuo o gyfarfod o dan y rheoliad hwn neu'r Atodlen onid yw ei benodiad i'r swydd, ei dâl, neu gamau disgyblu yn ei erbyn yn destun ystyriaeth, ond os byddai'r rheoliad hwn neu'r Atodlen fel arall yn ei gwneud yn ofynnol iddo ymneilltuo, rhaid iddo beidio â gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth heblaw swyddogaeth clerc.
(5) Os oes unrhyw anghydfod ynghylch p'un a yw'n ofynnol o dan y rheoliad hwn i berson perthnasol ymneilltuo o gyfarfod cyd-bwyllgor a pheidio â phleidleisio, rhaid i aelodau eraill y cyd-bwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod benderfynu ar y cwestiwn hwnnw.
(6) Mae'r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer buddiannau ariannol a gwrthdrawiadau penodedig eraill o ran buddiant.
11 

(1) Rhaid i'r clerc neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod cyd-bwyllgor; a rhaid iddynt gael eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y cyd-bwyllgor) gan y cadeirydd yng nghyfarfod nesaf y cyd-bwyllgor.
(2) Rhaid gosod cofnodion o'r trafodion mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a chaniateir eu gosod ar dudalennau rhydd sydd wedi eu rhifo'n olynol ond yn yr achos hwnnw rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion lofnodi pob tudalen â llythrennau cyntaf ei enw.
(3) Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y cyd-bwyllgor at ddibenion unrhyw gyfarfod gofnodi yn union o flaen y cofnod sy'n rhoi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau aelodau'r cyd-bwyllgor ac enw unrhyw berson arall sy'n bresennol yn y cyfarfod dan sylw.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid i'r cyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu bod y canlynol ar gael i'w harchwilio ym mhob un o'r cyrff addysg sy'n cydlafurio gan unrhyw berson sydd â diddordeb, a rhoi i'r cyrff addysg sy'n cydlafurio—
(a) copi o'r agenda ar gyfer bob cyfarfod;
(b) copi o'r cofnodion a lofnodwyd o bob cyfarfod o'r fath;
(c) copi o unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath;
(d) copi o gofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os ydynt wedi eu cymeradwyo gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw; ac
(e) copi o'r agenda a'r cofnodion a lofnodwyd ar gyfer pob cyfarfod a chopi o unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd yn y cyfarfod.
(5) Caiff y cyd-bwyllgor wahardd o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (4) unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—
(a) person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir iddo weithio, mewn awdurdod lleol, ysgol neu i gorff addysg bellach;
(b) disgybl a enwir mewn ysgol neu gorff addysg bellach, neu ymgeisydd am gael ei dderbyn i ysgol neu gan gorff addysg bellach; neu
(c) unrhyw fater arall, oherwydd ei natur, y mae'r cyd-bwyllgor yn fodlon y dylai barhau'n gyfrinachol.
(6) Rhaid i bob tudalen o gopïau o unrhyw gofnodion drafft a gyhoeddir o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd ddangos mai cofnodion drafft ydynt.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2012
YR ATODLEN
(Rheoliad 10)
1 

(1) At ddibenion rheoliad 10, mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—
(a) lle y cafodd person perthnasol ei enwebu neu ei benodi i swydd fel aelod o gorff addysg sy'n cydlafurio gan berson y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir ei wneud gydag ef;
(b) lle y mae'r person perthnasol yn bartner i berson, neu o dan gyflogaeth person y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef; neu
(c) lle y mae perthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod neu ei bartner sifil o fewn ystyr Deddf Partneriaeth Sifil 2004 neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person), yn meddu, neu lle y byddai'n cael ei drin fel un sy'n meddu, ar fuddiant o'r fath, a bod hynny'n hysbys i'r person perthnasol hwnnw.
(2) At ddibenion rheoliad 10, nid yw person perthnasol i'w drin fel un sydd â buddiant ariannol yn unrhyw fater—
(a) ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater ddim mwy na buddiant y rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael eu talu i weithio i'r corff addysg sy'n cydlafurio;
(b) dim ond oherwydd y ffaith yr enwebwyd neu y penodwyd y person i swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, ei fod yn aelod o gorff o'r fath neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu
(c) dim ond oherwydd y ffaith ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall, os nad oes gan y person hwnnw unrhyw fuddiant ariannol o bwys mewn unrhyw warantau yn y gorfforaeth honno neu'r corff arall hwnnw.
(3) Nid oes rhwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor, oherwydd eu buddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion i un neu fwy o'r cyrff addysg sy'n cydlafurio i drefnu yswiriant sy'n diogelu eu haelodau rhag atebolrwyddau a berir ganddynt ac a fyddai'n codi o'u swyddi ac ni fydd corff addysg sy'n cydlafurio, oherwydd buddiant ariannol ei aelodau, yn cael ei rwystro rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.
2 

(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth yw—
(a) penodiad y person ei hun, ei ailbenodi, neu ei symud o'i swydd fel aelod o'r cyd-bwyllgor;
(b) penodiad y person ei hun neu ei symud o'i swydd fel clerc, neu gadeirydd, y cyd-bwyllgor; neu
(c) os yw'r person hwnnw yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir neu baragraff 2 o Atodlen 5 i'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir o ran y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwyr-lywodraethwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid ymdrin â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 10(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff addysg sy'n cydlafurio.
3 

(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, sy'n cael ei dalu i weithio i gorff addysg sy'n cydlafurio, ac eithrio fel pennaeth neu benadur, yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw cyflog neu arfarniad o berfformiad unrhyw berson penodol sy'n cael ei gyflogi i weithio i gorff addysg sy'n cydlafurio.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth neu benadur corff addysg sy'n cydlafurio yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw ei gyflog ef ei hun neu arfarniad o'i berfformiad ef ei hun.
(3) Yn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid ymdrin â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 10(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff addysg sy'n cydlafurio.
4 
Nid yw'r ffaith bod person yn aelod o gyd-bwyllgor corff addysg sy'n cydlafurio ar gyfer mwy nag un ysgol neu gorff addysg bellach o dan unrhyw amgylchiadau i'w ystyried yn fuddiant sy'n gwrthdaro at ddibenion y Rheoliadau hyn.