
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Sylfaenol) (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Unedau o Weithgaredd Deintyddol) (Cymru) 2012, deuant i rym ar 1 Tachwedd 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn Atodlen 2 (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig) i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006, ym mharagraff 2 (unedau o weithgaredd deintyddol), yn Nhabl B (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir o dan y contract mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy'n esempt rhag ffi)—
(a) yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi), hepgorer “Issue of a prescription”; a
(b) yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir), hepgorer “0.75”.
3 
Yn Atodlen 2 (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig) i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006, ym mharagraff 2 (unedau o weithgaredd deintyddol), yn Nhabl B (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir o dan y cytundeb mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy'n esempt rhag ffi)—
(a) yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi), hepgorer “Issue of a prescription”; a
(b) yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir), hepgorer “0.75”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2012