
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 2 Tachwedd 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw'r ardal ddaearyddol honno y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;
 ystyr “asesiad” (“assessment”) yw'r asesiad sy'n cael ei wneud gan awdurdod lleol o dan adran 11(1) o'r Mesur;
 mae “chwarae” (“play”) wedi ei ddiffinio yn adran 11(6) o'r Mesur;
 mae “digonol” (“sufficient”) wedi ei ddiffinio yn adran 11(6) o'r Mesur;
 ystyr “digwyddiad chwarae” (“play event”) yw unrhyw ddigwyddiad a gynhelir yn gyhoeddus at ddiben hyrwyddo chwarae;
 ystyr “man agored” (“open space”) yw unrhyw dir sydd wedi ei osod allan fel gardd gyhoeddus, neu sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion adloniant cyhoeddus;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, dyma'r ystodau oedran—
(a) 3 oed ac yn is;
(b) 4 — 7 oed;
(c) 8 — 12 oed;
(d) 13 — 15 oed;
(e) 16 — 17 oed.
3 
Rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i'r materion canlynol wrth asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae o fewn ei ardal awdurdod lleol—
(a) o ran pob ystod oedran, nifer y plant sydd o fewn ei ardal;
(b) anghenion plant o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd o fewn ei ardal;
(c) y mannau lle y gall plant chwarae ynddynt, gan gynnwys—
(i) mannau agored, a
(ii) unrhyw fan arall;
(d) darpariaeth chwarae dan oruchwyliaeth, gan gynnwys—
(i) canolfannau hamdden,
(ii) meysydd chwarae antur,
(iii) cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau,
(iv) clybiau a grwpiau ieuenctid,
(v) darpariaeth symudol, a
(vi) unrhyw ddarpariaeth arall ar gyfer chwarae dan oruchwyliaeth;
(e) p'un a oes tâl yn cael ei godi am ddarpariaeth chwarae ai peidio, a phan fo tâl yn cael ei godi, swm y tâl hwnnw;
(f) y mesurau a ddefnyddir i hyrwyddo mynediad at chwarae, gan gynnwys—
(i) cynlluniau gostegu traffig a chynlluniau strydoedd saff,
(ii) llwybrau i gerddwyr,
(iii) llwybrau beicio,
(iv) trafnidiaeth gyhoeddus,
(v) parcio,
(vi) oriau agor y ddarpariaeth chwarae,
(vii) hysbysebu'r ddarpariaeth chwarae,
(viii) unrhyw ddigwyddiadau chwarae;
(g) y gweithlu chwarae—
(i) gweithwyr chwarae,
(ii) gwirfoddolwyr chwarae,
(iii) cyfleoedd hyfforddi i'r gweithlu chwarae,
(iv) lefelau cymwysterau'r gweithlu chwarae;
(h) lefel yr ymgysylltu â'r gymuned a chyfranogiad y gymuned, gan gynnwys—
(i) grwpiau ieuenctid,
(ii) cynghorau ysgol,
(iii) cyrff llywodraethu ysgolion,
(iv) grwpiau cymunedol;
(i) i ba raddau y mae polisïau eraill awdurdod lleol yn dwyn i ystyriaeth yr angen i ehangu cyfleoedd chwarae i blant.
4 
Wrth lunio'r asesiad, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â'r canlynol—
(a) y plant,
(b) y rhieni,
(c) yr unigolion a'r sefydliadau â buddiant mewn chwarae,sy'n briodol ym marn yr awdurdod lleol.
5 

(1) Rhaid i bob asesiad a lunnir gan awdurdod lleol gynnwys cynllun gweithredu.
(2) Pan fo asesiad yn nodi—
(a) bod y cyfleoedd chwarae i blant yn annigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i'r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i wella'r cyfleoedd i blant chwarae o fewn yr ardal awdurdod lleol honno, neu
(b) bod y cyfleoedd chwarae i blant yn ddigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i'r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i gynnal y cyfleoedd i blant chwarae o fewn yr ardal awdurdod lleol honno.
6 

(1) Rhaid i awdurdod lleol gwblhau ei asesiad cyntaf cyn pen 4 mis ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Yn dilyn asesiad cyntaf rhaid i awdurdod lleol gwblhau asesiad bob 3 blynedd.
(3) Mae'r 3 blynedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) yn cychwyn o'r dyddiad y mae'n rhaid i'r asesiad cyntaf gael ei gwblhau arno.
(4) Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o'r asesiad at Weinidogion Cymru.
7 
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ar ei wefan grynodeb o ganlyniadau'r asesiad.
8 
Rhaid i awdurdod lleol adneuo crynodeb o ganlyniadau'r asesiad yn y llyfrgelloedd cyhoeddus, canolfannau hamdden, ysgolion a'r mannau eraill hynny sy'n briodol ym marn yr awdurdod lleol.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2012