
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2012.
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 5, yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2011—2012 sy'n cael ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i wella safonau dysgu neu arferion rheoli staff yn yr ysgol gyda'r bwriad o wella neu asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion mewn ysgol a gynhelir.”.

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2012