
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 5) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2 
1 Tachwedd 2012 yw'r diwrnod penodedig i adran 11 o'r Mesur (dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant) ddod i rym ac eithrio is-adrannau (3) a (4).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2012