
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Maent yn dod i rym ar 10 Hydref 2012.
2 

(1) Mae Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “brechlynnau anweithredol” (“inactivated vaccines”) yw brechlynnau nad ydynt yn frechlynnau byw a wanhawyd;”;“
 ystyr “brechlynnau byw a wanhawyd” (“live attenuated vaccines”) yw brechlynnau a gynhyrchir drwy addasu arunigion maes firws y tafod glas drwy gyfres o dramwyfeydd mewn meithriniadau meinweoedd neu mewn wyau ieir embryonog;”.
(3) Yn lle rheoliad 3 (esemptiadau) rhodder—“
3 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a) unrhyw beth y mae person wedi ei awdurdodi i'w wneud drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008;
(b) rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011.”
(4) Yn rheoliad 13 (cyfyngiadau mewn parthau diogelu a pharthau gwyliadwriaeth) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i barth gwyliadwriaeth a gafodd ei ddatgan gan Weinidogion Cymru beidio â chynnwys unrhyw dir lle y cafodd anifeiliaid eu brechu gan frechlynnau byw a wanhawyd yn erbyn y tafod glas o fewn y 12 mis diwethaf.
(1B) Ni chaiff neb frechu yn erbyn y tafod glas gan ddefnyddio brechlyn byw a wanhawyd mewn parth gwyliadwriaeth a gafodd ei ddatgan o dan y rheoliad hwn.”
(5) Yn lle Rhan 3 (brechu) rhodder—“
RHAN 3
17 
Ni chaiff neb ac eithrio deiliad awdurdodiad marchnata, awdurdodiad gweithgynhyrchu neu awdurdodiad deliwr cyfanwerthu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011 gael gafael ar frechlyn ac eithrio at ddiben galluogi'r defnydd o frechlynnau o dan reoliad 19.
18 
Ni chaiff neb frechu anifail yn erbyn y tafod glas ac eithrio yn unol â rheoliad 19.
19 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded benodedig neu drwydded gyffredinol sy'n caniatáu defnyddio brechlynnau anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd yn erbyn y tafod glas yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu lle y mae'n rhaid i unrhyw feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu brechu gan frechlynnau anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd a chydymffurfio ag unrhyw fesurau eraill sy'n ymwneud naill ai â brechu neu frechlyn a bennwyd yn y datganiad hwnnw.
(3) Pan fo parth wedi ei ddatgan o dan baragraff (2), caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd mangre neu i geidwad anifeiliaid ar fangre sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad hwnnw sicrhau brechu anifeiliaid yn y fangre â brechlynnau anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded o dan baragraff (1) neu ddatgan parth o dan baragraff (2) dim ond—
(a) os yw'r penderfyniad i ddefnyddio'r brechlyn wedi ei seilio ar ganlyniad asesiad risg penodedig a gyflawnwyd gan Weinidogion Cymru; a
(b) os hysbyswyd Comisiwn yr UE am y penderfyniad hwnnw cyn i'r brechu hwnnw gael ei wneud.
(5) Pryd bynnag y mae brechlynnau byw a wanhawyd i'w defnyddio, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan—
(a) parth gwarchod sy'n cynnwys o leiaf yr ardal frechu; a
(b) parth gwyliadwriaeth sy'n ymestyn y tu hwnt i derfynau'r parth gwarchod lle na chafodd unrhyw anifail ei frechu â brechlynnau byw a wanhawyd yn erbyn y tafod glas o fewn y 12 mis diwethaf.
(6) Ni chaiff neb frechu yn erbyn y tafod glas gan ddefnyddio brechlyn byw a wanhawyd mewn parth gwyliadwriaeth a gafodd ei ddatgan o dan y rheoliad hwn.”
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2012