
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012.
(2) Daw i rym ar 31 Ionawr 2012.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
2 
Yn adran 108. o'r Ddeddf (iawndal am wrthod neu roi caniatâd cynllunio amodol a roddwyd gynt drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol)—
(a) yn is-adran (2A)(a) hepgorer “in England”;
(b) yn is-adran (2A)(b) hepgorer “in England”;
(c) yn is-adran (3C)(a) hepgorer “in England”;
(ch) yn is-adran (3D) hepgorer paragraff (a);
(d) yn is-adran (6), ar ôl “Secretary of State”, mewnosoder “in relation to England and the Welsh Ministers in relation to Wales,”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2012