
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 3 Medi 2012; ac
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.
2 
Daw Rhan 1 o'r Mesur (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) i rym ar y dyddiad cychwyn.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2012