
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol a Dirymu) 2012 a daw i rym ar 31 Awst 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011; a
(b) mae i “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2011.
2 
Mae Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011 wedi ei ddirymu ar 31 Awst 2012.
3 
Mae'r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 2011, wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru—
(a) swyddogaethau yn ymwneud â thalu grant newydd at ffioedd o dan reoliad 65A o Reoliadau 2011;
(b) swyddogaethau yn ymwneud ag adennill gordaliad o grant newydd at ffioedd o dan reoliad 70 o Reoliadau 2011; ac
(c) swyddogaethau yn ymwneud â chais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2011 a chael yr wybodaeth honno, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill grant newydd at ffioedd.
4 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 3.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2012