
RHAN 1 —
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, mae i “y Corff” (“the Body”) yr ystyr a roddir iddo gan erthygl 3(1).
RHAN 2 —
3 

(1) Bydd corff corfforaethol o'r enw Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu Natural Resources Body for Wales (y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn fel “y Corff”).
(2) Mae'r Atodlen yn cynnwys darpariaethau pellach am y Corff.
4 

(1) Diben y Corff yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru—
(a) yn cael eu cynnal yn gynaliadwy;
(b) yn cael eu gwella yn gynaliadwy; ac
(c) yn cael eu defnyddio yn gynaliadwy.
(2) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “yn gynaliadwy” (“sustainably”) yw—
(i) gyda golwg ar wneud lles, a
(ii) mewn modd sydd wedi ei ddylunio i wneud lles,
i bobl, amgylchedd ac economi Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
(b) mae “amgylchedd” (“environment”) yn cynnwys, heb gyfyngiad, organeddau byw ac ecosystemau.
(3) Lle bynnag y bo'r Corff yn arfer unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â pharth Cymru (fel y diffinnir “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), neu unrhyw swyddogaeth sy'n effeithio ar y parth hwnnw, mae'r ddau gyfeiriad at “Cymru” ym mharagraff (1) i'w dehongli fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at barth Cymru.
(4) Lle bynnag y bo'r Corff yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag unrhyw ardal arall y tu allan i Gymru, neu mewn modd sy'n effeithio ar ardal o'r fath, mae'r ddau gyfeiriad at “Cymru” ym mharagraff (1) i'w dehongli fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at yr ardal o dan sylw.
(5) Nid yw paragraff (1) yn rhoi i'r Corff bŵer—
(a) i wneud unrhyw beth na fyddai ganddo'r pŵer i'w wneud fel arall, neu
(b) i arfer unrhyw un o'i swyddogaethau mewn modd sy'n groes i ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw rwymedigaeth UE.
5 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i'r Corff o ran y modd y dylai arfer ei swyddogaethau er mwyn rhoi effaith i'w ddiben.
(2) Wrth lunio unrhyw ganllawiau o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i gyfrifoldebau ac adnoddau'r Corff.
(3) Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canllawiau a roddir o dan yr erthygl hon.
(4) Cyn rhoi canllawiau i'r Corff o dan yr erthygl hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Corff ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan yr erthygl hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r canllawiau.
(6) Mae'r pŵer i roi canllawiau o dan yr erthygl hon yn cynnwys pŵer i'w hamrywio neu i'w dirymu.
6 

(1) Mae gan y Corff y swyddogaethau a nodir yn is-baragraffau (a) a (b)—
(a) y swyddogaeth o hwyluso'r gwaith o weithredu unrhyw un o gynigion Gweinidogion Cymru ar gyfer trosglwyddo unrhyw un o'r canlynol (wedi ei addasu neu beidio) i'r Corff—
(i) unrhyw un o swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
(ii) unrhyw un o swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r Comisiynwyr Coedwigaeth sydd wedi ei datganoli i Gymru;
(iii) unrhyw un o swyddogaethau un o Bwyllgorau Llifogydd ac Arfordir Cymru;
(iv) unrhyw un o'u swyddogaethau eu hunain sy'n ymwneud â'r amgylchedd; neu
(v) unrhyw swyddogaeth amgylcheddol Gymreig unrhyw berson;
(b) y swyddogaeth o hwyluso'r gwaith o weithredu unrhyw un o gynigion eraill Gweinidogion Cymru a wnaed mewn cysylltiad ag unrhyw gynigion sy'n dod o fewn is-baragraff (a)—
(i) sy'n ymwneud â phwnc y cynigion hynny, neu
(ii) sy'n ganlyniad neu'n atodol i'r cynigion hynny neu sy'n gysylltiedig â hwy, neu sy'n ymwneud â materion trosiannol.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i gynnig gan Weinidogion Cymru ni waeth a yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw berson neu gorff arall wedi rhoi unrhyw gydsyniad neu gymeradwyaeth y mae, yn ôl y gyfraith, gweithredu'r cynnig hwnnw yn dibynnu arni, ond nid yw'n dileu'r angen i gael unrhyw gydsyniad neu gymeradwyaeth o'r fath cyn y gellir gweithredu'r cynnig.
7 

(1) Rhaid i'r Corff gyflawni ei swyddogaethau o dan erthygl 6(1) yn ôl y meini prawf a nodir yn y paragraffau a ganlyn.
(2) Y maen prawf cyntaf yw bod yn rhaid i'r Corff sicrhau, i'r graddau y mae'n bosibl heb gyfaddawdu'r gwaith o gyflawni ei swyddogaethau o dan erthygl 6(1), bod yna gydweithredu effeithiol mewn perthynas â'r gwaith o weithredu unrhyw gynnig rhyngddo ef, Gweinidogion Cymru ac unrhyw berson neu gorff arall—
(a) y cyfeirir ato yn erthygl 6(1)(a), a
(b) yr effeithir arno gan y cynnig perthnasol.
(3) Yr ail faen prawf yw na chaniateir i'r Corff ymyrryd ag unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a grybwyllir yn erthygl 6(1)(a) wrth iddynt gyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau yn effeithiol.
8 

(1) Wrth ystyried p'un ai arfer unrhyw bŵer a roddwyd iddo gan unrhyw ddeddfiad neu o dano ai peidio, rhaid i'r Corff ystyried y costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o arfer y pŵer hwnnw neu beidio.
(2) Wrth benderfynu ar y modd i arfer unrhyw bŵer o'r fath, rhaid i'r Corff ystyried y costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o'i arfer yn y modd o dan sylw.
(3) Mae'r dyletswyddau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys oni bai, neu i'r graddau, ei bod yn afresymol i'r Corff fod yn ddarostyngedig iddynt o ystyried natur neu ddiben y pŵer neu o dan amgylchiadau'r achos penodol.
(4) Ond nid yw'r dyletswyddau hynny'n effeithio ar rwymedigaeth y Corff i gyflawni unrhyw ddyletswyddau, cydymffurfio ag unrhyw ofynion, neu fynd ar drywydd unrhyw amcanion, a osodwyd arno neu a roddwyd iddo gan unrhyw ddeddfiad ac eithrio'r erthygl hon.
9 

(1) Caiff y Corff wneud unrhyw beth yr ymddengys iddo ei fod yn gydnaws neu'n gysylltiedig â chyflawni ei swyddogaethau.
(2) Yn benodol, caiff y Corff—
(a) ymrwymo i gytundebau;
(b) caffael neu waredu eiddo a gwneud gwaith peirianyddol neu waith adeiladu yn unol â'r hyn y mae'n ei ystyried yn briodol;
(c) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, ffurfio cyrff corfforaethol neu gaffael neu waredu buddiannau mewn cyrff corfforaethol;
(d) ffurfio ymddiriedolaethau elusennol;
(e) derbyn rhoddion;
(f) buddsoddi arian.
(3) Yn yr erthygl hon, mae “gwaith peirianyddol neu waith adeiladu” (“engineering or building operations”), heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymadrodd hwnnw, yn cynnwys—
(a) adeiladu, newid, gwella, cynnal a chadw neu ddymchwel unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw gronfa ddŵr, cwrs dŵr, argae, cored, ffynnon, twll turio neu waith arall, a
(b) gosod neu addasu unrhyw beiriannau neu gyfarpar neu gael gwared ag unrhyw beiriannau neu gyfarpar.
10 
Rhaid i'r Corff roi i Weinidogion Cymru unrhyw gyngor a chymorth y byddant yn gofyn amdanynt.
11 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i'r Corff o ran arfer ei swyddogaethau.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan yr erthygl hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddiadau.
(3) Mae'r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon yn cynnwys pŵer i amrywio neu i ddirymu'r cyfarwyddiadau.
(4) Rhaid i'r Corff gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan yr erthygl hon.
RHAN 3 —
12 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i'r Corff.
(2) Gall grant o dan yr erthygl hon gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau.
13 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu dyletswyddau ariannol y Corff.
(2) Gellir gwneud penderfyniadau gwahanol ar gyfer swyddogaethau a gweithgareddau gwahanol y Corff.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ymgynghori â'r Corff cyn gwneud penderfyniad am ddyletswyddau ariannol y Corff, a
(b) rhoi hysbysiad i'r Corff am bob penderfyniad o'r fath y maent yn ei wneud.
(4) Caiff penderfyniad o'r fath—
(a) ymwneud â chyfnod sy'n dechrau cyn y dyddiad y'i gwneir, arno neu ar ei ôl;
(b) cynnwys darpariaethau atodol; ac
(c) cael ei amrywio gan benderfyniad dilynol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i'r Corff gan ei gwneud yn ofynnol iddo dalu iddynt swm sy'n gyfartal â'r cyfan o unrhyw swm neu ran ohono a bennir yn y cyfarwyddyd, neu unrhyw swm o ddisgrifiad a bennir felly a hwnnw'n swm sy'n cael neu sydd wedi cael ei dderbyn gan y Corff hwnnw.
(6) Lle yr ymddengys i Weinidogion Cymru fod gan y Corff warged, p'un ai ar gyfrif cyfalaf neu refeniw, cânt gyfarwyddo'r Corff i dalu iddynt swm nad yw'n fwy na'r gwarged hwnnw a bennir yn y cyfarwyddyd.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Corff cyn rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (5) neu (6).
14 

(1) Caiff y Corff fenthyca yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon, ond nid fel arall.
(2) Caiff y Corff fenthyca symiau o'r fath mewn sterling ag y mae eu hangen arno i gyflawni ei rwymedigaethau a'i swyddogaethau.
(3) Caiff y Corff fenthyca—
(a) gan Weinidogion Cymru, neu
(b) gan bersonau ac eithrio Gweinidogion Cymru, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(4) Caniateir i gydsyniad gael ei roi o dan baragraff (3)(b) yn ddarostyngedig i amodau.
15 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru warantu, yn y fath fodd ac ar yr amodau sy'n briodol yn eu barn hwy, yr ad-daliad o unrhyw brif swm y mae'r Corff yn ei fenthyca gan unrhyw berson, y taliad o log ar y swm hwnnw a chyflawni unrhyw rwymedigaeth ariannol arall sy'n gysylltiedig ag ef.
(2) Os telir unrhyw symiau er mwyn cyflawni gwarant o dan yr erthygl hon, rhaid i'r Corff dalu i Weinidogion Cymru, ar yr adegau ac yn y modd y byddant yn ei gyfarwyddo o bryd i'w gilydd,—
(a) symiau yn ôl eu cyfarwyddyd i ad-dalu neu tuag at ad-dalu'r symiau hynny a dalwyd, a
(b) taliadau llog, ar y gyfradd yn ôl eu cyfarwyddyd, ar yr hyn sy'n weddill ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r symiau hynny a dalwyd.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2012
YR ATODLEN
Erthygl 3
1 

(1) Nid yw'r Corff i'w ystyried yn was nac yn asiant i'r Goron neu'n un sy'n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.
(2) Nid yw eiddo'r Corff i'w ystyried yn eiddo'r Goron neu'n eiddo sy'n cael ei ddal ar ran y Goron.
2 

(1) Rhaid i'r Corff gynnwys—
(a) cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru;
(b) dim llai na 5 na mwy nag 11 o aelodau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru;
(c) y prif weithredwr (gweler paragraff 13); a
(d) dim llai na 2 na dim mwy na 4 o aelodau eraill a benodir gan y Corff.
(2) Yn achos penodiadau cychwynnol i'r Corff, mae penodiadau o dan is-baragraff (1)(d) i'w gwneud gan yr aelodau a benodir o dan is-baragraff (1)(a) i (c), ac mae'r ymadrodd “y Corff” (“the Body”) i'w ddehongli yn unol â hynny.
(3) Ni chaniateir i'r cadeirydd a'r aelodau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (1)(b) fod yn gyflogeion i'r Corff a chyfeirir atynt yn yr Atodlen hon fel “aelodau anweithredol” (“non-executive members”).
(4) Mae'r prif weithredwr a'r aelodau eraill a benodir gan y Corff o dan is-baragraff (1)(d) i fod yn gyflogeion i'r Corff a chyfeirir atynt yn yr Atodlen hon fel “aelodau gweithredol” (“executive members”).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o'r aelodau anweithredol yn ddirprwy gadeirydd.
(6) Wrth benodi person yn aelod, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Corff (yn ôl y digwydd) roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol—
(a) penodi person sydd â phrofiad o ddelio â mater sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau'r Corff neu sydd wedi dangos gallu yn hynny o beth, a
(b) sicrhau bod amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ar gael ymhlith yr aelodau.
3 
Ym mharagraff 2(6), mae'r cyfeiriad at swyddogaethau'r Corff yn cynnwys unrhyw swyddogaethau a fyddai'n cael eu trosglwyddo i'r Corff pe bai cynnig a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy'n dod o fewn erthygl 6(1) yn cael ei weithredu.
4 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod o'r Corff.
(2) Ym mharagraff 2(1), mae'r cyfeiriad at aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru yn cynnwys aelod a enwebir o dan y paragraff hwn.
(3) Bydd person a enwebir o dan y paragraff hwn yn peidio â bod yn aelod o'r Corff pan fydd yn peidio â bod yn gyflogedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a beth bynnag ar y dyddiad y trosglwyddir unrhyw swyddogaeth i'r Corff o ganlyniad i gynnig gan Weinidogion Cymru sy'n dod o fewn erthygl 6(1).
5 
Yn ddarostyngedig i baragraff 4(3) (pan fo'n gymwys) a pharagraffau 6 i 8—
(a) mae aelod yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau ei enwebiad neu ei benodiad;
(b) mae dirprwy gadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd honno yn unol â thelerau'r penodiad hwnnw.
6 

(1) Caiff person ymddiswyddo o'i swydd fel aelod anweithredol, neu fel dirprwy gadeirydd, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(2) Caiff person ymddiswyddo o'i swydd fel aelod gweithredol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Corff.
7 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo person o'i swydd fel aelod anweithredol, neu fel dirprwy gadeirydd, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.
(2) Caiff y Corff ddiswyddo person o'i swydd fel aelod gweithredol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.
(3) Ni chaniateir rhoi hysbysiad o dan y paragraff hwn ond i berson—
(a) a fu'n absennol o gyfarfodydd y Corff am gyfnod o fwy na 3 mis heb ganiatâd y Corff;
(b) sydd wedi methu â chydymffurfio â thelerau'r penodiad;
(c) sydd wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant gyda chredydwyr, y mae ei ystâd wedi ei secwestru yn yr Alban, neu sydd wedi ymuno â rhaglen trefnu dyledion o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyledion (yr Alban) 2002 (dsa 17) fel y dyledwr neu sydd, o dan gyfraith yr Alban, wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer;
(d) sydd, ym marn y person sy'n rhoi'r hysbysiad, yn anaddas i barhau â'r penodiad oherwydd camymddygiad; neu
(e) sydd, ym marn y person sy'n rhoi'r hysbysiad, fel arall yn analluog, yn anaddas neu'n amharod i gyflawni swyddogaethau'r aelod.
8 

(1) Bydd person yn peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd pan fydd yn peidio â bod yn aelod.
(2) Bydd person yn peidio â bod yn aelod anweithredol pan fydd yn dod yn gyflogai i'r Corff.
(3) Bydd person yn peidio â bod yn aelod gweithredol pan fydd yn peidio â bod yn gyflogai i'r Corff.
9 

(1) Caniateir i berson sy'n peidio â bod yn aelod, ac aelod sy'n peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd, gael eu hailbenodi i'r swyddi hynny.
(2) Ond ni chaniateir i berson sydd wedi ei ddiswyddo ar sail camymddygiad a nodir ym mharagraff 7(3)(d) gael ei ailbenodi.
10 

(1) Rhaid i'r Corff dalu i'r aelodau anweithredol ac unrhyw ddirprwy gadeirydd y fath gydnabyddiaeth ariannol a'r lwfansau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau gwahanol o dan yr erthygl hon mewn achosion gwahanol.
11 
Rhaid i'r Corff—
(a) talu'r fath bensiynau neu arian rhodd ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru i unrhyw aelod anweithredol neu gyn-aelod anweithredol, neu mewn cysylltiad ag ef;
(b) talu'r fath symiau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i unrhyw aelod anweithredol neu gyn-aelod anweithredol, neu mewn cysylltiad ag ef.
12 

(1) Bydd yr erthygl hon yn gymwys—
(a) os bydd person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, a
(b) os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yna amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol i'r person gael ei ddigolledu.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r Corff dalu i'r person y fath swm o ddigollediad ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
13 

(1) Rhaid i'r Corff benodi person yn brif weithredwr.
(2) Rhaid bod y person a benodwyd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru benodi'r prif weithredwr cyntaf.
(4) Caiff y Corff benodi cyflogeion eraill.
14 

(1) Caiff y Corff dalu i'w gyflogeion y fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag a benderfynir ganddo.
(2) Dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caiff y Corff wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn.
15 

(1) Caiff y Corff—
(a) talu'r fath bensiynau neu arian rhodd ag a benderfynir ganddo i unrhyw gyflogai neu gyn-gyflogai, neu mewn cysylltiad ag ef, a
(b) talu'r fath symiau ag a benderfynir ganddo tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i unrhyw gyflogai neu gyn-gyflogai, neu mewn cysylltiad ag ef.
(2) Dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caiff y Corff wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn.
16 

(1) Caiff y Corff benderfynu ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm) a gweithdrefn ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau.
(2) Caiff y Corff awdurdodi ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau i benderfynu eu gweithdrefn eu hunain (gan gynnwys cworwm).
(3) Ond os yw penderfyniad o dan y paragraff hwn yn darparu ar gyfer cworwm unrhyw gyfarfod, ni ellir bodloni'r cworwm oni bai bod y rhan fwyaf o'r aelodau sy'n bresennol yn aelodau anweithredol.
17 
Ni chaiff unrhyw drafodyn gan y Corff neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor ei annilysu gan—
(a) swydd wag cadeirydd, na
(b) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod.
18 

(1) Caiff y Corff awdurdodi un o'i bwyllgorau, ei is-bwyllgorau, ei aelodau neu ei gyflogeion i arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
(2) Oni bai bod y Corff yn penderfynu fel arall, caiff un o bwyllgorau'r Corff awdurdodi un o is-bwyllgorau, aelodau neu gyflogeion y Corff i arfer unrhyw un o swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw, gan gynnwys swyddogaethau y mae'r Corff wedi eu dirprwyo iddo.
(3) Oni bai bod y Corff neu'r pwyllgor perthnasol yn penderfynu fel arall, caiff un o is-bwyllgorau'r Corff awdurdodi un o aelodau neu gyflogeion y Corff i arfer unrhyw un o swyddogaethau'r is-bwyllgor hwnnw, gan gynnwys swyddogaethau y mae'r Corff neu bwyllgor wedi eu dirprwyo iddo.
(4) Caiff awdurdodiad o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn fod yn gyffredinol neu'n benodol, a rhaid ei roi yn ysgrifenedig.
(5) Rhaid i'r Corff anfon copi o'r awdurdodiad at Weinidogion Cymru.
(6) Nid yw darpariaethau blaenorol y paragraff hwn yn atal y Corff (neu'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor, yn ôl y digwydd) rhag arfer y swyddogaeth o dan sylw.
19 

(1) Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Corff.
(2) Caiff y Corff dalu'r fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson—
(a) sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ond
(b) nad yw'n aelod o'r Corff nac yn gyflogai iddo.
20 

(1) Rhaid i'r weithred o osod sêl y Corff gael ei dilysu drwy lofnod—
(a) aelod o'r Corff sydd wedi ei awdurdodi (yn gyffredinol neu'n benodol) at y diben hwnnw, neu
(b) cyflogai sydd wedi ei awdurdodi felly.
(2) Mae dogfen sydd i bob golwg wedi ei gweithredu'n briodol o dan sêl y Corff—
(a) i'w derbyn fel tystiolaeth, a
(b) i'w thrin fel pe bai wedi ei gweithredu felly oni ddangosir fel arall.
21 

(1) Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—
(a) llunio cynllun gan nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol, a
(b) cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru ei ystyried.
(2) Yn y paragraff hwn—
(a) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, a
(b) blwyddyn ariannol gyntaf y Corff yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar yr ail 31 Mawrth ar ôl i'r Corff gael ei sefydlu.
22 

(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—
(a) llunio adroddiad blynyddol ar sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a
(b) anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn honno.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Yn y paragraff hwn a pharagraff 23, ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, ond blwyddyn ariannol gyntaf y Corff yw'r naill neu'r llall o'r canlynol—
(a) y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod sefydlu'r Corff ac sy'n dod i ben ar y 31 Mawrth nesaf, neu
(b) cyfnod arall, heb fod yn fwy na 2 flynedd, yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.
23 

(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—
(a) cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
(b) llunio datganiad o gyfrifon,
yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon a gaiff ei lunio o dan y paragraff hwn i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru.
(3) Rhaid cyflwyno'r datganiad o gyfrifon ddim hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid i gyfrifon a datganiadau o gyfrifon y Corff roi darlun gwir a theg o—
(a) amgylchiadau'r Corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a
(b) incwm a gwariant y Corff yn y flwyddyn ariannol.
(5) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a) archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;
(b) rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon, ynghyd â'i adroddiad arno, i'r Corff; ac
(c) heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.
24 

(1) Rhaid i'r Corff roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae ei hangen arnynt yn ymwneud ag eiddo'r Corff neu â chyflawni ei swyddogaethau neu â'r ffordd y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau.
(2) Rhaid i'r Corff hefyd—
(a) caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru arolygu unrhyw gyfrifon, dogfennau neu gofnodion eraill y Corff (ar unrhyw ffurf), a gwneud copïau ohonynt, a
(b) rhoi unrhyw esboniad arnynt y mae ei angen ar y person hwnnw neu Weinidogion Cymru.