
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Medi 2012.
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£12.00” rhodder “£12.40”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£39.00” rhodder “£40.20”; ac
(c) ym mharagraff (5), yn lle “£12.00” rhodder “£12.40”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2012