
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012, a deuant i rym ar 1 Medi 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae'r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) 1980; a
(b) Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Diwygio) 1994.
(2) Mae'r rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â'r cynigion hynny sydd wedi eu rhoi ar waith cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “corff llywodraethu” (“governing body”) yn cynnwys corff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol ag adran 34 o Ddeddf 2002;
 ystyr “cynigion” (“proposals”) yw'r cynigion y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sy'n gwneud y canlynol—
(a) pennu oedran sy'n iau na 10 mlwydd 6 mis oed ac oedran sy'n hŷn na 12 mlwydd oed; a
(b) darparu bod yr ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi i fod yn ysgol sy'n darparu addysg lawnamser sy'n addas i ofynion disgyblion rhwng yr oedrannau a bennir;
 ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “dibenion y Ddeddf Addysg” (“Education Act purposes”) yw dibenion Deddf Addysg 1996 a'r deddfiadau eraill sy'n ymwneud ag addysg;
 ystyr “hyrwyddwyr” (“promoters”) yw personau ar wahân i awdurdod lleol sydd wedi cyhoeddi cynigion i sefydlu ysgol newydd o dan adran 28(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “pedwerydd cyfnod allweddol” (“fourth key stage”) yw'r cyfnod a nodir yn adran 103(1)(d) o Ddeddf 2002;
 ystyr “ystod oedran ysgol gynradd” (“primary age range”) yw'r ystod blynyddoedd pan fo disgybl rhwng 11 mlwydd oed a'r oedran ieuaf a bennir yn y cynigion; ac
 ystyr “ystod oedran ysgol uwchradd” (“secondary age range”) yw'r ystod blynyddoedd pan fo disgybl rhwng 11 mlwydd oed a'r oedran hynaf a bennir yn y cynigion.
4 
Mae ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin yn ysgol uwchradd at ddibenion y Ddeddf Addysg—
(a) pan fo gan yr ysgol honno ystod oedran ysgol uwchradd ehangach o ddisgyblion nag o ddisgyblion o ystod oedran ysgol gynradd;
(b) pan fo'r ysgol yn bwriadu darparu addysg ar gyfer disgyblion hyd nes iddynt beidio â bod o'r oedran ysgol gorfodol mwyach neu eu bod yn hŷn na'r oedran ysgol gorfodol; ac
(c) (pan fo paragraff (b) yn gymwys) pan na fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud dyfarniad o dan reoliad 5(2).
5 

(1) Mae ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin yn ysgol gynradd at ddibenion y Ddeddf Addysg pan fo gan yr ysgol honno ystod oedran ysgol gynradd ehangach o ddisgyblion nag o ddisgyblion o ystod oedran ysgol uwchradd, ac—
(a) pan na fo rheoliad 4(b) yn gymwys; neu
(b) pan fo rheoliad 4(b) yn gymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud dyfarniad o dan baragraff (2).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu bod ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin yn ysgol gynradd at ddibenion y Ddeddf Addysg—
(a) pan fo rheoliad 4(b) yn gymwys;
(b) pan fo'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr yn gofyn i Weinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan y rheoliad hwn; ac
(c) pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod dyfarniad o'r fath yn briodol.
6 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu p'un a yw'r ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin at ddibenion y Ddeddf Addysg yn ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd—
(a) pan fo gan yr ysgol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, ystod oedran ysgol gynradd o ddisgyblion sy'n gyfartal â'r ystod oedran ysgol uwchradd o ddisgyblion; a
(b) pan na fo rheoliad 4(b) yn gymwys.
(2) Cyn gwneud y dyfarniad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) rhoi cyfle i'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr wneud sylwadau; a
(b) ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddynt.
7 
Pan ddyfarnwyd bod ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, yn ysgol gynradd yn unol â rheoliadau 5 neu 6, mae i'w thrin at ddibenion adrannau 116A i 116K o Ddeddf 2002 yn ysgol uwchradd pan fo gan yr ysgol honno ddisgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol.
8 
Pan ddyfarnwyd bod ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, yn ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd yn unol â'r Rheoliadau hyn, mae i'w thrin at ddibenion adran 101(1)(c) o Ddeddf 2002—
(a) yn ysgol gynradd mewn perthynas â'r disgyblion iau yn yr ysgol; a
(b) yn ysgol uwchradd mewn perthynas â'r disgyblion hŷn yn yr ysgol.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
6 Mehefin 2012