
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu (Gwaddolion Addysgol) (Llandegley) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 1 Awst 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “asedau'r Sefydliad” (“the Foundation assets”) yw'r asedau sy'n cynrychioli'r Gwaddol ar hyn o bryd;
 ystyr “yr Esgobaeth” (“the Diocese”) yw Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, a rhaid dehongli “yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol” (“the Diocesan Trust”) yn unol â hynny;
 ystyr “y Gwaddol” (“the Endowment”) yw'r gwaddol a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu;
 ystyr “y Sefydliad” (“the Foundation”) yw'r sefydliad addysgol a adwaenid fel Sefydliad Ysgol Llandeglau (a adwaenid yn ddiweddarach fel Neuadd Bentref Llandeglau) a sefydlwyd gan y weithred Sefydlu;
 ystyr “y weithred Sefydlu” (“the Founding deed”) yw'r weithred dyddiedig 11 March 1869 ac y credir iddi gael ei gwneud rhwng tenantiaid y clastir rheithorol a pherchnogion degymau i Reithor, Ficer a Wardeiniaid Eglwys Llandeglau;
 mae i “ysgol sefydledig” (“foundation school”) yr ystyr a roddir i “foundation school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; ac y
 mae i “ysgol wirfoddol” (“voluntary school”) yr ystyr a roddir i “voluntary school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
3 

(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol i fod yn Ymddiriedolwr—
(a) y Sefydliad; a
(b) asedau'r Sefydliad.
(2) Rhaid trosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol yr holl gronfeydd sydd, yn union cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, yn eiddo i'r Sefydliad, neu a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y Sefydliad (ac eithrio unrhyw gronfeydd a ddelir eisoes gan yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol), a rhaid i unrhyw berson sy'n dal cronfeydd o'r fath gyflawni pob gweithred sy'n angenrheidiol at y diben o'u trosglwyddo.
4 

(1) Awdurdodir yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol i werthu unrhyw eiddo rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol sy'n gynwysedig yn asedau'r Sefydliad, a rhaid iddi, hyd nes gwerthir eiddo o'r fath, ei osod a'i reoli fel arall yn unol â'r gyfraith gyffredinol sy'n gymwys i reolaeth eiddo a ddelir mewn ymddiriedolaeth at ddibenion elusennol.
(2) Rhaid i'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol ddal asedau'r Sefydliad ar yr ymddiriedolaethau statudol unffurf, er budd ysgolion gwirfoddol neu ysgolion sefydledig yr Eglwys yng Nghymru o fewn yr Esgobaeth.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “ymddiriedolaethau statudol unffurf” (“uniform statutory trusts”) yw'r ymddiriedolaethau a bennir yn yr Atodlen (sef yr ymddiriedolaethau statudol unffurf a bennir yn Atodlen 36 i Ddeddf Addysg 1996 fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asedau'r Sefydliad.
5 
Caniateir cyfuno asedau'r Sefydliad gydag unrhyw waddol presennol a ddelir at y dibenion a bennir yn yr Atodlen.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2012
YR ATODLEN
Erthygl 3(4)
1 
Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol, ar ôl talu unrhyw dreuliau a achosir iddi mewn cysylltiad â gweinyddu'r Sefydliad, ddefnyddio cyfalaf ac incwm y Sefydliad at unrhyw rai o'r dibenion canlynol—
(a) ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu adeiladu, gwella neu ehangu mangre unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;
(b) ar gyfer cynnal unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;
(c) ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu adeiladu, gwella neu ehangu mangre unrhyw dŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth; ac
(d) ar gyfer cynnal unrhyw dŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth.
2 
Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol hefyd, ar ôl talu unrhyw dreuliau a achosir iddi mewn cysylltiad â gweinyddu'r Sefydliad, ddefnyddio incwm y Sefydliad at unrhyw rai o'r dibenion canlynol—
(a) ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, cyngor, arweiniad ac adnoddau (gan gynnwys deunyddiau) mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy'n ymwneud â rheolaeth unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth, neu'r addysg a ddarperir mewn unrhyw ysgol o'r fath;
(b) darparu gwasanaethau ar gyfer cynnal unrhyw arolygiad o unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth sy'n ofynnol o dan Ran 1 o Ddeddf Addysg 2005; ac
(c) talu'r gost o gyflogi staff neu eu cymryd ymlaen mewn cysylltiad ag—
(i) defnyddio incwm asedau'r Sefydliad ar gyfer y naill neu'r llall o'r dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b) uchod,
(ii) defnyddio cyfalaf ac incwm asedau'r Sefydliad ar gyfer unrhyw rai o'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod.
3 
Ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol o'r math y cyfeirir ato yn erthygl 4(2).