
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012, a daw i rym ar 18 Medi 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw'r ardal o Fae Abertawe a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw'r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o'r math Mytilus edulis;
 ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;
 ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) sydd â'i swyddfa gofrestredig yn Druslyn House, Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3HJ, neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i'r bysgodfa am y tro; ac
 ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
3 
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision o fewn yr Ardal am gyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar 18 Medi 2012.
4 
Rhaid i'r Grantî farcio terfynau'r Ardal ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
5 

(1) Rhaid i'r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion daliadau—
(a) ar gyfer y cyfnod o 18 Medi 2012 i 31 Mawrth 2013, ar neu cyn 31 Gorffennaf 2013; ac ar ôl hynny
(b) ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth, ar neu cyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben.
(2) Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—
(a) cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision a heuir yn y bysgodfa;
(b) lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision ohoni;
(c) cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision a gymerir o'r bysgodfa;
(d) lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision ohono; ac
(e) pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.
6 

(1) Rhaid i'r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i'r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
(3) Rhaid i'r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio'r Ardal a'r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy'n ymwneud â'r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i'r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.
7 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n awdurdodi'r Grantî i gymryd, defnyddio neu ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely'r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu aber neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy'n eiddo i'w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.
8 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
9 
Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio'r hawl hwn i bysgodfa, na'i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2012
YR ATODLEN
Erthygl 2

Y rhan honno o wely'r môr ym Mae Abertawe sy'n ymestyn i tua 70 hectar, ac sydd oddi mewn i linell sy'n cysylltu'r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 4 yn y tabl isod.

Pwynt Lledred Hydred
1 51° 35. 27' Go 3° 58. 50' Gn
2 51° 35. 20' Go 3° 58. 20' Gn
3 51° 34. 45' Go 3° 58. 90' Gn
4 51° 34. 40' Go 3° 58. 50' Gn
