
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mehefin 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “anabl” yr ystyr a roddir i “disabled” yn adran 17(11) o Ddeddf 1989;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989; ac
 ystyr “gofalwr” (“carer”) yw person sy'n darparu gofal ar gyfer plentyn anabl ac sy'n—
(a) rhiant i'r plentyn, neu
(b) yn berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn hwnnw.
3 
Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff 6(1)(c) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i anghenion y gofalwyr hynny—
(a) na allent barhau i ddarparu gofal ar gyfer y plentyn anabl oni bai bod seibiannau oddi wrth ofalu yn cael eu rhoi iddynt; a
(b) a allai ddarparu gofal ar gyfer y plentyn anabl yn fwy effeithiol pe bai seibiannau oddi wrth ofalu yn cael eu rhoi iddynt er mwyn caniatáu iddynt—
(i) ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden rheolaidd,
(ii) diwallu anghenion plant eraill yn y teulu yn fwy effeithiol, neu
(iii) cyflawni tasgau o ddydd i ddydd y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni er mwyn rhedeg eu haelwyd.
4 

(1) Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff 6(1)(c) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989, rhaid i awdurdod lleol ddarparu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, ystod o wasanaethau sy'n ddigonol i gynorthwyo gofalwyr i barhau i ddarparu gofal neu i wneud hynny yn fwy effeithiol.
(2) Rhaid i'r ddarpariaeth y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei darparu yn unol â pharagraff (1) gynnwys, fel y bo'n briodol, ystod o'r canlynol—
(a) gofal yn ystod y dydd yng nghartrefi plant anabl neu rywle arall,
(b) gofal dros nos yng nghartrefi plant anabl neu rywle arall,
(c) gweithgareddau addysgol neu weithgareddau hamdden ar gyfer plant anabl y tu allan i'w cartrefi, a
(d) gwasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo gofalwyr gyda'r nos, ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol.
5 

(1) Rhaid i awdurdod lleol, erbyn 27 Medi 2012, baratoi datganiad ar gyfer gofalwyr yn ei ardal (“datganiad gwasanaethau seibiannau byr”) sy'n nodi manylion ynghylch—
(a) yr ystod o wasanaethau a ddarperir yn unol â rheoliad 4,
(b) unrhyw feini prawf a ddefnyddir i asesu cymhwysedd ar gyfer y gwasanaethau hynny, a
(c) sut y mae'r ystod o wasanaethau wedi ei chynllunio i ddiwallu anghenion gofalwyr yn ei ardal.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi ei ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr, gan roi copi ohono ar ei wefan.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu ei ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr yn gyson, a'i ddiwygio pan fo'n briodol.
(4) Wrth baratoi a diwygio ei ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i farn gofalwyr yn ei ardal.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mehefin 2012