
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio) 2012 a daw i rym ar 2 Gorffennaf 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005, hepgorer y geiriau “Cyngor Sir y Fflint”.
3 
Mae erthygl 6 o Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 wedi ei dirymu.
Rosemary Thomas
Prif Gynllunydd/Dirprwy Gyfarwyddwr o dan awdurdod Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2012