
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012.
(2) Daw rheoliad 2(2) i rym ar 2 Ebrill 2012, daw rheoliadau 2(3)(a) a 2(4)(a) i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o Ddeddf Addysg 2011 i rym, a daw rheoliadau 2(3)(b) ac (c) a 2(4)(b) ac (c) i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011 i rym.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 3(a) rhodder y paragraff a ganlyn—“
 erthygl 18(2) (addasrwydd i addysgu) neu 19 (unigolion gwaharddedig) o Orchymyn Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban) 2011 neu benderfyniad gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban i ddileu unigolyn o'r gofrestr, yn dilyn ei ddyfarnu'n euog o dramgwydd, o dan erthygl 27 (tramgwyddau) o'r Gorchymyn hwnnw.”.
(3) Yn Atodlen 1,
(a) ar ôl paragraff 21, mewnosoder y canlynol—“
21A 
Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002.”.
(b) ym mharagraff 22A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
(c) ym mharagraff 22B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
(4) Yn Atodlen 2,
(a) ar ôl paragraff 12A, mewnosoder y canlynol—“
12B 
Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002.”.
(b) ym mharagraff 13A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
(c) ym mharagraff 13B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2012