
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Medi 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod gweithredol interim” (“interim executive member”) yw aelod o gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 1A i Ddeddf 1998;
 ystyr “awdurdod”(“authority”) yw'r awdurdod lleol y mae ysgol a gynhelir yn cael ei chynnal ganddo;
 ystyr “bwrdd gweithredol interim” (“interim executive board”) yw corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 1A i Ddeddf 1998 (cyrff llywodraethu o aelodau gweithredol interim);
 mae i “corff llywodraethu cysgodol” (“shadow governing body”) a “llywodraethwyr cysgodol” (“shadow governors”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(2);
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002; ac
 ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu” (“the Government Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
3 
Ac eithrio fel a nodir isod nid yw rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adrannau (2) neu (3) o adran 19 neu adran 23 o Ddeddf 2002 i fod yn gymwys mewn perthynas â chorff llywodraethu cysgodol.
4 

(1) Mae'r addasiadau canlynol i'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Mae cyfeiriadau at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i'w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”.
(3) Mae cyfeiriadau at wahanol gategorïau o lywodraethwyr i'w darllen fel cyfeiriadau at lywodraethwyr cysgodol o'r un categori.
5 

(1) O leiaf chwe mis cyn y dyddiad a roddir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan adran 16A(1) neu 18A(1) o Ddeddf 1998, neu baragraff 17(1) o Atodlen 1A iddi, fel y dyddiad y mae'r corff llywodraethu i ddod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau sy'n darparu ar gyfer sefydlu corff llywodraethu i'r ysgol gan ragweld y trosiad i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at gorff llywodraethu a sefydlir felly fel corff llywodraethu cysgodol a chyfeirir at aelodau o'r corff llywodraethu cysgodol fel llywodraethwyr cysgodol .
(3) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn rhwystro aelod gweithredol interim rhag cael ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr cysgodol.
6 
Cyfansoddir corff llywodraethu cysgodol o aelodau a etholwyd neu a benodwyd yn ôl y digwydd yn unol â rheoliadau 4 i 12A o'r Rheoliadau Llywodraethu fel y'u haddaswyd gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.
7 
Rhaid i gorff llywodraethu cysgodol ysgol gael ei gyfansoddi'n unol â'r rheoliadau 13 i 20 hynny o'r Rheoliadau Llywodraethu, fel y'u haddaswyd gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys wrth roi sylw i gategori'r ysgol.
8 
Mae rheoliadau 24 a 26 i 30 o'r Rheoliadau Llywodraethu ac Atodlen 5 iddynt fel y'u haddaswyd gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran llywodraethwyr cysgodol.
9 

(1) Rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol, yn ei gyfarfod cyntaf, ethol o blith ei aelodau gadeirydd ac is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol.
(2) Ni chaniateir ethol person sy'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysgol i fod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd.
(3) Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol, ar unrhyw adeg, ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu cysgodol.
(4) Rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol beidio â dal ei swydd:
(a) os yw'n peidio â bod yn llywodraethwr cysgodol; neu
(b) os yw'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysgol.
(5) Pan fo swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol yn ei gyfarfod nesaf ethol un o blith ei aelodau i lenwi'r swydd wag honno.
(6) Pan fo'r cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu fod swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd at bob diben.
10 

(1) Rhaid i'r awdurdod benodi'r clerc i'r corff llywodraethu cysgodol.
(2) Rhaid i glerc y corff llywodraethu cysgodol beidio â bod—
(a) yn llywodraethwr cysgodol; neu
(b) yn bennaeth yr ysgol.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff y corff llywodraethu cysgodol, pan fo'r clerc yn methu â mynychu un o gyfarfodydd y corff hwnnw, benodi unrhyw un o blith aelodau'r corff i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
11 
Caiff y corff llywodraethu cysgodol benderfynu ei weithdrefn ei hun, yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14.
12 
Rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol arfer unrhyw swyddogaethau sydd wedi'u dirprwyo iddo gan y bwrdd gweithredol interim.
13 
Rhaid i glerc y corff llywodraethu cysgodol:
(a) mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu cysgodol a sicrhau bod cofnodion o'r trafodion yn cael eu gwneud a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu cysgodol) gan gadeirydd y cyfarfod; a
(b) cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a benderfynir gan y corff llywodraethu cysgodol o bryd i'w gilydd.
14 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi o'r canlynol ar gael i'w archwilio yn yr ysgol —
(a) yr agenda ar gyfer pob cyfarfod;
(b) cofnodion llofnodedig pob cyfarfod; ac
(c) unrhyw adroddiad neu bapur arall a gafodd ei ystyried yn y cyfarfod.
(2) Caniateir eithrio o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (1), unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—
(a) person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir iddo weithio, yn yr ysgol;
(b) disgybl a enwir neu ymgeisydd a enwir am gael ei dderbyn i'r ysgol; neu
(c) unrhyw fater arall sydd, oherwydd ei natur, yn fater y mae'r corff llywodraethu cysgodol wedi'i fodloni y dylai aros yn gyfrinachol.
15 
O'r diwrnod y mae'r aelodau gweithredol interim yn peidio â dal eu swydd yn unol â pharagraff 18(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 1998—
(a) mae'r corff llywodraethu cysgodol i'w drin fel pe bai'n gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal;
(b) mae aelodau o'r corff llywodraethu cysgodol i'w trin fel pe baent wedi bod yn aelodau o gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal o ddyddiad eu penodiad neu eu hetholiad yn ôl y digwydd;
(c) mae cadeirydd ac is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol i'w trin fel pe baent wedi cael eu hethol o dan reoliad 39(1) o'r Rheoliadau Llywodraethu;
(ch) mae clerc y corff llywodraethu cysgodol i'w drin fel pe bai wedi cael ei benodi o dan reoliad 42 o'r Rheoliadau Llywodraethu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
22 Mehefin 2012