
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Medi 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn rheoliad 3 o Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011 ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os yw'n gwrs rhan-amser.”
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2012