
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2012.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned; a
(b) ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
(3) Mae i'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'w cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.
2 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o—
(a) planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb, a
(b) hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,
a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy'n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o'r GIP.
(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—
(a) y ffi a bennir—
(i) yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o'r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu
(ii) yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a
(b) y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—
(a) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b) y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru.
3 

(1) Mae'r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, sy'n ymwneud â chais am—
(a) ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Tatws Hadyd;
(b) awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny.
(2) Mae'r ffi sy'n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.
(3) Rhaid talu'r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006.
4 

(1) Mae'r ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o'r GIP.
(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r math hwnnw o gais neu arolygiad.
5 

(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad ag—
(a) cais am awdurdod; neu
(b) sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau y rhoddwyd awdurdod yn ddarostyngedig iddynt.
(2) Y ffi yw £31.50 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £63.00 am bob ymweliad.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion, a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu erthygl 29 o'r GIP.
6 

(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy'n tarddu o'r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o'r Atodiad i'r Penderfyniad, a yw'r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £87.80 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/787/EU sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â'r Aifft.
7 
Dirymir y canlynol—
(a) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Trwyddedau) (Cymru a Lloegr) 1996, o ran Cymru yn unig;
(b) rheoliad 6 o Reoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004;
(c) Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006;
(ch) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007;
(d) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010; ac
(dd) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2012
ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall Nifer Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau hyd at 10,000 o ran nifer 46.98 70.47
 am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny 1.88, hyd at uchafswm o 375.84 2.81, hyd at uchafswm o 563.76
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau) hyd at 1,000 o ran nifer 46.98 70.47
 am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 1.15, hyd at uchafswm o 375.84 1.73, hyd at uchafswm o 563.76
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu hyd at 200 kg 46.98 70.47
 am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.43, hyd at uchafswm o 375.84 0.64, hyd at uchafswm o 563.76
Hadau, meithrinia dau meinwe hyd at 100 kg 20.13 30.20
 am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.46, hyd at uchafswm o 375.84 0.69, hyd at uchafswm o 563.76
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon hyd at 5,000 o ran nifer 46.98 70.47
 am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 0.46, hyd at uchafswm o 375.84 0.69, hyd at uchafswm o 563.76
Blodau wedi'u torri hyd at 20,000 o ran nifer 46.98 70.47
 am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny 0.36, hyd at uchafswm o 375.84 0.54, hyd at uchafswm o 563.76
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri) hyd at 100 kg 46.98 70.47
 am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny 4.67, hyd at uchafswm o 375.84 7.01, hyd at uchafswm o 563.76
Coed Nadolig sydd wedi'u torri hyd at 1,000 o ran nifer 46.98 70.47
 am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 4.67, hyd at uchafswm o 375.84 7.01, hyd at uchafswm o 563.76
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog hyd at 100 kg 46.98 70.47
 am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 4.67, hyd at uchafswm o 375.84 7.01, hyd at uchafswm o 563.76
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) hyd at 25,000 kg 46.98 70.47
 am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.88 2.81
Cloron tatws hyd at 25,000 kg 140.94 (am bob lot) 211.41 (am bob lot)
 am bob 25,000 kg ychwanegol neu ran o hynny 140.94 (am bob lot) 211.41 (am bob lot)
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl hyd at 25,000 kg 46.98 70.47
 am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.88, hyd at uchafswm o 375.84 2.81, hyd at uchafswm o 563.76
Grawn hyd at 25,000 kg 46.98 70.47
 am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.88, hyd at uchafswm o 1879.19 2.81, hyd at uchafswm o 2818.78
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd am bob llwyth 46.98 70.47
ATODLEN 2
Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4 Colofn 5
Genws Nifer Gwlad tarddiad Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) Ffi am bob llwyth (oria gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Blodau wedi'u torri
Dianthus hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 2.35 3.52
  Ecuador 4.70  7.05
  Kenya 2.35 3.52
  Twrci 11.74 17.62
 am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 0.03, hyd at uchafswm o 28.19
  Ecuador 0.04, hyd at uchafswm o 37.58 0.07, hyd at uchafswm o 56.38
  Kenya 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 0.03, hyd at uchafswm o 28.19
  Twrci 0.10, hyd at uchafswm o 93.96 0.15, hyd at uchafswm o 140.94
Rosa hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 1.41 2.11
  Ecuador 1.41 2.11
  Ethiopia 2.35 3.52
  Kenya 2.35 3.52
  Tanzania 4.70 7.05
  Uganda 11.74 17.62
  Zambia 11.74 17.62
 am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.01, hyd at uchafswm o 11.28 0.01, hyd at uchafswm o 16.91
  Ecuador 0.01, hyd at uchafswm o 11.28 0.01, hyd at uchafswm o 16.91
  Ethiopia 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 0.03, hyd at uchafswm o 28.19
  Kenya 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 0.03, hyd at uchafswm o 28.19
  Tanzania 0.04, hyd at uchafswm o 37.58 0.07, hyd at uchafswm o 56.38
  Uganda 0.07, hyd at uchafswm o 93.96 0.10, hyd at uchafswm o 140.94
  Zambia 0.07, hyd at uchafswm o 93.96 0.10, hyd at uchafswm o 140.94
Canghennau gyda deiliant
Phoenix hyd at 100 kg Costa Rica 16.44 24.66
 am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny Costa Rica 1.63, hyd at uchafswm o 131.54 2.45, hyd at uchafswm o 197.32
Ffrwythau
Citrus hyd at 25,000 kg Yr Aifft 7.05 10.57
  Israel 4.70 7.05
  Mecsico 7.05 10.57
  Moroco 2.35 3.52
  Periw 11.74 17.62
  Twrci 1.41 2.11
  Uruguay 7.05 10.57
  UDA 7.05 10.57
 am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Yr Aifft 0.26 0.39
  Israel 0.19 0.28
  Mecsico 0.26 0.39
  Moroco 0.07 0.10
  Periw 0.47 0.70
  Twrci 0.03 0.05
  Uruguay 0.26 0.39
  UDA 0.26 0.39
Malus hyd at 25,000 kg Ariannin 4.70 7.05
  Brasil 7.05 10.57
  Chile 2.35 3.52
  Tsieina 23.49 35.23
  Seland Newydd 4.70 7.05
  De Affrica 2.35 3.52
  UDA 11.74 17.62
 am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.19 0.28
  Brasil 0.28 0.42
  Chile 0.09 0.14
  Tsieina 0.94 1.40
  Seland Newydd 0.19 0.28
  De Affrica 0.09 0.14
  UDA 0.47 0.70
Passiflora hyd at 25,000 kg Colombia 4.70 7.05
  Kenya 4.70 7.05
  De Affrica 23.49 35.23
  Zimbabwe 16.44 24.66
 am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.16 0.25
  Kenya 0.16 0.25
  De Affrica 0.92 1.38
  Zimbabwe 0.63 0.94
Prunus hyd at 25,000 kg Ariannin 16.44 24.66
  Chile 4.70 7.05
  De Affrica 4.70 7.05
  Twrci 4.70 7.05
  UDA 4.70 7.05
 am bob 1000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.63 0.94
  Chile 0.16 0.25
  De Affrica 0.16 0.25
  Twrci 0.16 0.25
  UDA 0.16 0.25
Pyrus hyd at 25,000 kg Ariannin 4.70 7.05
  Chile 11.74 17.62
  Tsieina 16.44 24.66
  De Affrica 4.70 7.05
 am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.16 0.25
  Chile 0.47 0.70
  Tsieina 0.66 0.98
  De Affrica 0.16 0.25
Llysiau
Solanum melongena hyd at 25,000 kg Twrci 4.70 7.05
 am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Twrci 0.16 0.25
ATODLEN 3
Rheoliad 2(2)(b)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Gwiriad Nifer Ffi (£)
Dogfennol am bob llwyth 5.36
Adnabod am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol 5.36
 am bob llwyth sy'n fwy na'r maint uchod 10.71
ATODLEN 4
Rheoliad 3


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Swyddogaeth Ffi (£) Lleiafswm ffi (£)
Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau
Ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol 122.57* n/a
Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel: super elite 1, super elite 2 neu super elite 3 61.29 122.57
 elite 1, elite 2 neu elite 3 61.29 122.57
 A 58.26 116.52
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig 52.96 105.93
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd 122.57* n/a
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad 18.16 36.32
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol 122.57* n/a

ATODLEN 5
Rheoliad 4(2)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Eitem Math o gais neu arolygiad Ffi (£)
1 Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy'n dod o fewn eitem 2 neu 3 781.27
2 Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi 563.54
3 Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy'n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau 781.27, plws 30.74 am bob math o beth dros ben y 5
4 Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol 256.15
5 Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol 30.74
6 Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded 42.06 am bob awr neu ran o awr