
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinidogion Cymru a Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 1 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Mehefin 2012;
 ystyr “yr Ymddiriedolaeth” (“the Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a sefydlwyd gan Orchymyn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993.
2 
Ar y dyddiad trosglwyddo, mae'r eiddo a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, ac unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo hwnnw yn cael ei drosglwyddo oddi wrth Weinidogion Cymru i'r Ymddiriedolaeth.
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo, mae'r eiddo a restrir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, ac unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo hwnnw yn cael eu trosglwyddo oddi wrth y Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, i'r Ymddiriedolaeth.
4 
Rhaid i'r Ymddiriedolaeth lynu wrth delerau unrhyw les a drosglwyddwyd iddi yn rhinwedd erthyglau 2 a 3.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mai 2012
ATODLEN 1
Erthygl 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Eiddo Deiliadaeth Rhif Teitl
Tŷ Bevan, 24-30 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd lesddaliad WA600597
ATODLEN 2
Erthygle 3


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Bwrdd Iechyd Lleol Eiddo Deiliadaeth Rhif Teitl (os yw'n gymwys)
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan 13 Stad Ddiwydiannol Court Road, Cwmbrân. lesddaliad Dim yn Gymwys
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan 14 Stad Ddiwydiannol Court Road, Cwmbrân. lesddaliad Dim yn Gymwys
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg 16 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd. lesddaliad Dim yn Gymwys
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr 17 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd. lesddaliad CYM272212
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Derbynfa, Llawr Gwaelod, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. lesddaliad CYM403072
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Llawr 8, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. lesddaliad CYM218480
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Llawr 11, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. lesddaliad CYM218480
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Ystafell Bost, Llawr Gwaelod, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. lesddaliad CYM306893
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Centurian Tavern, Llawr Gwaelod, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. lesddaliad CYM274671
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Llawr 7, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. lesddaliad CYM245479
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Llawr Gwaelod, Tŷ Cwmbrân, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. lesddaliad CYM250566
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Llawr 1, Tŷ Cwmbrân, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. lesddaliad CYM250409
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Llawr 6, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd. lesddaliad CYM269778
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Swyddfa a Storfeydd, Llawr Gwaelod, Tŷ Aberhonddu, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. lesddaliad CYM534914
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys Swyddfa a Storfeydd, Llawr Gwaelod, Tŷ Aberhonddu, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. lesddaliad CYM534953
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Alder House, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy. lesddaliad CYM340322
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Denbigh Stores, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Ffordd y Rhyl, Dinbych. rhydd-ddaliad CYM312486