
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 21 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 13(4) (cais apêl), yn y testun Cymraeg—
(a) yn lle is-baragraff (c)(ii) rhodder—“
(ii) ysgol annibynnol, drwy gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu perchennog yr ysgol am fwriad y person i ofyn am enwi'r ysgol annibynnol yn y datganiad;”; a
(b) ar ôl is-baragraff (c)(ii) mewnosoder—“
(iii) ysgol annibynnol, drwy gadarnhad ysgrifenedig gan berchennog yr ysgol bod lle ar gael yn yr ysgol i'r plentyn.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
25 Mai 2012