
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 yn unol â'r rheoliadau canlynol.
3 

(1) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—“
 ystyr “benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry fee loan”) yw benthyciad sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 24B;”“
 ystyr “benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat” (“new private institution fee loan”) yw benthyciad sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 24A;”“
 ystyr “bwrsari gofal iechyd cyffredinol” (“universal healthcare bursary”) yw bwrsari gofal iechyd o £1,000—
(a) sy'n daladwy i fyfyriwr carfan 2012 neu i fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012; a
(b) mewn perthynas â myfyriwr carfan 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw; neu
(c) mewn perthynas â myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw;”“
 ystyr “cwrs mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry course”) yw cwrs—
(a) nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol neu ddeintydd;
(b) y byddai gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i'r cwrs;
(c) sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012; ac
(ch) nad yw'n parhau'n hwy na 4 blynedd;”“
 ystyr “grant ar gyfer ffioedd” (“grant for fees”) yw grant ar gyfer ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn unol â Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn;”“
 ystyr “myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012” (“2012 accelerated graduate entry student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012;”.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “myfyriwr carfan 2011” ar ôl y geiriau “myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011”, mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2012”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “myfyriwr carfan 2012”—
(a) ar ôl y geiriau “1 September 2012” ar ddiwedd is-baragraff (b) yn y testun Saesneg, yn lle “.” rhodder “; or”;
(b) ar ôl y geiriau “1 Medi 2012;” ar ddiwedd is-baragraff (b) yn y testun Cymraeg, mewnosoder “neu”; ac
(c) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.”.
4 
Yn rheoliad 4(3)(c)(i) ar ôl y geiriau “bwrsari gofal iechyd”, mewnosoder “, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol,”.
5 
Yn rheoliad 6(9), ar ôl y geiriau “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” yn is-baragraff (a), mewnosoder “neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012”.
6 

(1) Yn rheoliad 7(1) yn lle'r geiriau “baragraffau (3) a (4)” rhodder “baragraffau (3), (4) a (6)”.
(2) Ar ôl rheoliad 7(5) mewnosoder—“
(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam.”.
7 
Ar ôl rheoliad 10(2)(ch) mewnosoder—“
(chch) os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat neu fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam, neu swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat o dan reoliad 24A(4), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam o dan reoliad 24B(4), ac mewn achos o'r fath rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn ymwneud â hi.”.
8 
Yn rheoliad 19(6) ar ôl y geiriau “myfyriwr carfan newydd” mewnosoder y geiriau “neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012”.
9 
Yn rheoliad 20(1) ar ôl y geiriau “gwrs dynodedig” mewnosoder “a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus”.
10 
Yn rheoliad 21, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chwrs mynediad graddedig carlam.”.
11 
Yn rheoliad 23, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012 os oes hawl gan y myfyriwr i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.”.
12 
Ar ôl rheoliad 24 mewnosoder—“
24A 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus.
(3) Rhaid i swm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—
(a) £6,000 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £3,000; a
(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(4) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.
24B 

(1) Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn Erasmus.
(3) Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—
(a) £5,535; neu
(b) y gwahaniaeth rhwng £3,465 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.
(4) Os yw myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.”.
13 
Ar ôl rheoliad 25(4) mewnosoder—“
(4A) Yn ddarostyngedig i baragraff 4B, nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.
(4B) Nid yw paragraff 4A yn gymwys at ddibenion rheoliadau 26 i 32, i fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.”.
14 
Yn rheoliad 47(c) yn lle'r geiriau “neu'n fyfyriwr carfan 2012” rhodder “, yn fyfyriwr carfan 2012 neu'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio”.
15 
Yn rheoliad 51—
(a) yn y pennawd, yn lle'r geiriau “neu'n fyfyrwyr carfan 2012” rhodder “, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu'n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'u blwyddyn gyntaf o astudio”; a
(b) ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau “neu'n fyfyriwr carfan 2012” rhodder “, yn fyfyriwr carfan 2012 neu'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio”.
16 
Yn lle rheoliad 65 rhodder—“
65 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn atebol i dalu iddo.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd—
(a) oni fyddant wedi cael cais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol; a
(b) bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ym mharagraff (3)(b), neu yn ddi-oed ar ôl i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys, os yw hynny'n digwydd yn hwyrach.
(5) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.
(6) Ni cheir gwneud taliad o'r grant ar gyfer ffioedd, neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
(a) os bydd y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a
(b) os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto ar y cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, ymgymryd eto â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi, neu o gwbl.
(7) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn o'r cwrs dynodedig.”.
17 
Ar ôl rheoliad 65 mewnosoder—“
65A 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn atebol i dalu iddo.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—
(a) cais am daliad; a
(b) cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the new system eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—
(a) wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â'r cwrs dynodedig, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd; neu
(b) yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â'r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, ac eithrio'r rhandaliad cyntaf.
(5) Os yw asesu cais myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.
(6) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd o'r cwrs dynodedig.”.
18 

(1) Yn rheoliad 86(1), yn lle “i'r awdurdod academaidd priodol wedi i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys.” rhodder y canlynol—“
 unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—
(a) cais am daliad; a
(b) cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig.”.
(2) Yn rheoliad 86, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of the eligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys dysgu o bell—
(a) wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â'r cwrs hwnnw, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o'r grant mewn perthynas â ffioedd neu'r rhandaliad cyntaf o'r grant mewn perthynas â ffioedd; neu
(b) yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â'r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o'r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio'r rhandaliad cyntaf.
(5) Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o'r cwrs dysgu o bell dynodedig.”.
19 
Yn y testun Saesneg, ar ôl paragraff 9(3) o Ran 2 o Atodlen 1 mewnosoder—“
(4) For the purposes of this paragraph, a United Kingdom national has exercised a right of residence if that person has exercised a right under Article 7 of Directive 2004/38 or any equivalent right under the EEA Agreement or Swiss Agreement in a state other than the United Kingdom.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Ionawr 2012