
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” (“relevant floor area”), mewn perthynas â siop, yw arwynebedd mewnol y llawr o gymaint o'r siop ag sy'n cynnwys, neu sy'n rhan o adeilad ond gan eithrio unrhyw ran o'r siop nad yw'n cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau nac ar gyfer arddangos nwyddau;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009;
 mae i “gwerthwr tybaco arbenigol” yr ystyr a roddir i “specialist tobacconist” yn adran 6 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002;
 ystyr “pecyn” (“package”) yw unrhyw flwch, carton neu gynhwysydd arall;
 ystyr “pecyn gwreiddiol” (“original package”) yw'r pecyn y cyflenwyd y sigaréts neu'r tybaco rholio â llaw ynddo gan y gweithgynhyrchwr neu'r mewnforiwr at ddibenion manwerthu;
 ystyr “siop fawr” (“large shop”) yw siop lle y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn fwy na 280 o fetrau sgwâr; ac
 ystyr “swmpwerthwr tybaco” (“bulk tobacconist”) yw siop sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco (p'un a yw'n gwerthu cynhyrchion eraill neu beidio) ac y mae ei gwerthiannau sigaréts neu dybaco rholio â llaw, a fesurir yn unol â pharagraff (4), yn cydymffurfio â'r amodau canlynol—
(i) bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau sigaréts yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 200 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 100 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; a
(ii) bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau tybaco rholio â llaw yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 250 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 125 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol;
(4) Mae'r gwerthiannau y cyfeiriwyd atynt yn y diffiniad o “swmpwerthwr tybaco” i'w mesur yn ôl y pris gwerthu—
(a) yn ystod y cyfnod mwyaf diweddar o ddeuddeng mis y mae cyfrifon ar gael ar ei gyfer; neu
(b) yn ystod y cyfnod ers sefydlu'r siop, os nad yw wedi ei sefydlu'n ddigon hir i'r cyfrifon ar gyfer deuddeng mis fod ar gael.
2 

(1) 1 Mehefin 2012 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Atodlen 4 i'r Ddeddf—
(a) paragraff 7(6);
(b) paragraff 8(1) a pharagraff 8(3); ac
(c) paragraff 2 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau a restrir yn (a) a (b).
(2) 3 Rhagfyr 2012 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a) adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac i'r graddau y mae'n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco, arddangosiadau tybaco: eithriadau ac amddiffyniad ac arddangosiadau: prisiau cynhyrchion tybaco), at ddibenion siopau mawr nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco nac yn werthwyr tybaco arbenigol;
(b) y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny—
(i) paragraff 6(2) a pharagraff 6(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r is-baragraff hwnnw;
(ii) paragraff 10;
(iii) paragraffau 11 a 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(iv) paragraff 2 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau a restrir yn (i) i (iii).
(3) 6 Ebrill 2015 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a) adran 20 (gwaharddiad ar hysbysebu: eithrio gwerthwyr tybaco arbenigol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i'r graddau y mae'n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, ac i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c) y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny—
(i) paragraff 2 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii) paragraff 3; a
(iii) paragraff 4(2) a (5) a pharagraff 4(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r is-baragraffau hynny.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2012