
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2015.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Ni chyflawnir unrhyw drosedd o dan adran 2 o'r Ddeddf (gwaharddiad ar hysbysebu tybaco) os yw'r hysbyseb dybaco—
(a) mewn mangre gwerthwr tybaco arbenigol;
(b) yn un nad yw ar gyfer sigaréts neu dybaco rholio â llaw; ac
(c) yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn y paragraffau a ganlyn.
(2) Ni chaniateir i hysbyseb dybaco fod yn weladwy o'r tu allan i fangre'r gwerthwr tybaco arbenigol.
(3) Rhaid i bob hysbyseb gynnwys adran (“yr adran wybodaeth”) (“the information area”) lle yr arddangosir ynddi—
(a) rhybudd iechyd fel a bennir ym mharagraff (4); a
(b) yr wybodaeth iechyd a ganlyn—“
 Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru
 0800 169 0 169
 Smokers' Helpline Wales”.
(4) Rhaid i'r rhybudd iechyd ddatgan—
(a) mewn achos lle mae hanner neu ragor o arwynebedd hysbyseb ac eithrio'r adran wybodaeth (“yr adran hysbysebu”) (“the advertisement area”) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hysbysebu cynhyrchion tybaco y bwriedir iddynt gael eu hysmygu—“
 “Mae ysmygu yn lladd / Smoking kills” neu
 “Mae ysmygu yn achosi niwed difrifol i chi ac eraill o'ch cwmpas / Smoking seriously harms you and others around you””; a
(b) ym mhob achos arall—
 “Gall cynhyrchion tybaco achosi niwed difrifol i'ch iechyd a gallwch fynd yn gaeth iddynt / Tobacco products can seriously damage your health and are addictive”.
(5) Rhaid i'r adran wybodaeth o dan baragraff (3)—
(a) mewn achos lle y mae cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yn fwy na 75 o gentimetrau sgwâr, fod o leiaf 22.5 o gentimetrau sgwâr; a
(b) mewn unrhyw achos arall, beidio â bod yn llai na 30% o gyfanswm arwynebedd yr hysbyseb,
ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yw'r adran hysbysebu a'r adran wybodaeth.
(6) Rhaid i'r rhybudd iechyd a'r wybodaeth iechyd y mae'n ofynnol iddynt gael eu harddangos o dan baragraff (3)—
(a) bod yn annileadwy;
(b) bod yn ddarllenadwy;
(c) bod wedi eu printio mewn teip Helvetica du trwm ar gefndir gwyn;
(d) bod mewn maint ffont sy'n gyson drwy'r testun sy'n sicrhau bod y testun yn llenwi'r gyfran fwyaf posibl o'r adran wybodaeth;
(e) bod mewn teip â phriflythrennau a llythrennau bach fel y'u defnyddiwyd yn yr wybodaeth iechyd ym mharagraff (3) neu, yn ôl y digwydd, yn y rhybudd iechyd o dan sylw ym mharagraff (4);
(f) bod wedi eu canoli yn yr adran lle y mae'n ofynnol i'r testun gael ei brintio ynddi;
(g) cael eu harddangos yn gyfochrog â'r llawr;
(h) bod wedi eu hamgylchynu ag ymyl ddu y tu allan i'r adran wybodaeth y mae'n rhaid iddi beidio â bod yn llai na 3 milimetr a dim mwy na 4 milimetr ei lled, a honno'n ymyl nad yw'n ymyrryd â thestun y rhybudd na'r wybodaeth; ac
(i) bod wedi eu printio ar yr hysbyseb yn y fath fodd fel na ellir eu tynnu oddi arni neu wedi eu gosod ar yr hysbyseb drwy gyfrwng sticer na ellir ei dynnu oddi yno.
3 
Ni chyflawnir unrhyw drosedd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco os yw'r arddangosiad—
(a) mewn mangre gwerthwr tybaco arbenigol; a
(b) yn un nad yw'n weladwy o'r tu allan i fangre'r gwerthwr tybaco arbenigol.
4 
Mae Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) 2004 wedi eu dirymu o ran Cymru.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2012