
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Mai 2012 ac y mae'n gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “blwyddyn fusnes” (“business year”) yw cyfnod, o chwe mis neu ragor, y mae'r person cydnabyddedig yn cyhoeddi cyfrifon mewn perthynas ag ef, neu, os na chyhoeddwyd cyfrifon o'r fath am y cyfnod, yn paratoi cyfrifon mewn perthynas ag ef;
 ystyr “blwyddyn fusnes flaenorol” (“preceding business year”) yw'r flwyddyn fusnes yn union cyn y dyddiad hysbysu;
 ystyr “dyddiad hysbysu” (“date of notice”) yw'r dyddiad pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i berson cydnabyddedig o dan adran 32AA(6) o'r Ddeddf o'u bwriad i osod cosb ariannol ar y person cydnabyddedig;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1997;
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “trosiant cymwysadwy” (“applicable turnover”) yw unrhyw symiau, a gyfrifir yn unol ag arferion cyfrifyddu arferol yn y Deyrnas Unedig, a'r rheini'n rhai—
(a) y mae'r person cydnabyddedig wedi eu deillio o ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy'n dod o fewn ei weithgareddau cyffredin yn y Deyrnas Unedig; a
(b) a dderbynnir ar ffurf rhodd, grant neu gymhorthdal gan y person cydnabyddedig, wrth iddo gyflawni ei weithgareddau cyffredin yn y Deyrnas Unedig,
ar ôl didynnu disgowntiau masnach, treth ar werth a threthi eraill sy'n seiliedig ar y symiau sy'n deillio neu a dderbynnir felly;
3 

(1) Rhaid penderfynu trosiant person cydnabyddedig at ddibenion adran 32AB(1) o'r Ddeddf yn unol â'r erthygl hon.
(2) Os oes blwyddyn fusnes flaenorol—
(a) os yw'r flwyddyn fusnes flaenorol yn gyfnod o ddeuddeng mis, y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy am y cyfan o'r flwyddyn fusnes flaenorol honno;
(b) os yw'r flwyddyn fusnes flaenorol yn fwy neu'n llai na chyfnod o ddeuddeng mis, y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy yn y flwyddyn fusnes honno wedi ei rannu gyda nifer y misoedd yn y flwyddyn fusnes honno a'i luosi gyda deuddeg.
(3) Os nad oes blwyddyn fusnes flaenorol—
(a) y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy am y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis sy'n rhagflaenu'r mis sy'n cynnwys y dyddiad hysbysu; neu
(b) os oes gan y person cydnabyddedig drosiant cymwysadwy am gyfnod sy'n llai na deuddeng mis, y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy am y cyfnod hwnnw wedi ei rannu gyda nifer y misoedd yn y cyfnod hwnnw a'i luosi gyda deuddeg.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2012