
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
2 

(1) Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Mesur i rym ar 30 Ebrill 2012—
(a) adrannau 5 i 7 (cefnogi aelodaeth);
(b) adrannau 8 i 22 (gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol a dehongli);
(c) adrannau 23 i 33 (absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau awdurdodau lleol);
(d) adrannau 56 a 57 (arfer swyddogaethau gan gynghorwyr);
(e) adran 61 (personau dynodedig);
(f) adran 62 (rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoedd);
(g) adrannau 63 i 65 (pwerau cynghorwyr);
(h) adrannau 66 i 75 (penodi personau i gadeirio pwyllgorau);
(i) adran 78 (gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaid);
(j) adrannau 81 i 87 (pwyllgorau archwilio);
(k) adrannau 88 i 99 (cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol);
(l) adran 147 (adroddiadau blynyddol dilynol);
(m) adran 153 (cydymffurfio â gofynion y Panel);
(n) adran 155(1) (peidio â gwneud taliadau);
(o) adran 160 (diwygiadau canlyniadol);
(p) adran 176(1) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau); a
(q) Atodlen 3 (taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol (Rhan 8 o'r Mesur)).
(2) I'r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn—
(a) adrannau 142 a 143 (prif swyddogaethau'r Panel);
(b) adran 145 (adroddiadau blynyddol);
(c) adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft);
(d) adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft);
(e) adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau);
(f) adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau);
(g) adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau);
(h) adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau);
(i)  adran 155(2), (3) a (4) (peidio â gwneud taliadau);
(j)  adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion);
(k)  adran 157 (canllawiau);
(l) adran 176(2) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau); ac
(m) Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau).
3 

(1) Er i ddiddymiad a dirymiad y cofnodion yn Rhan F o Atodlen 4 ddod i rym yn unol ag erthygl 2(2)(l) ac (m), mae'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn parhau i gael effaith fel pe baent heb eu dirymu gan y Mesur at y diben a nodir ym mharagraff (3).
(2) Dyma'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 2002;
(b) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003;
(c) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004; a
(d) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007.
(3) Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw hawliadau a wneir am lwfansau neu daliadau eraill mewn cysylltiad â dyletswyddau cymeradwy a gyflawnir cyn 1 Ebrill 1 2012.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2012