
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Tân (Galluoedd Cyflogeion) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Rhaid i bob cyflogwr, wrth roi tasgau yng ngofal cyflogeion, ystyried galluoedd y cyflogeion hynny o ran iechyd a diogelwch, i'r graddau y mae'r galluoedd hynny yn ymwneud â thân.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
8 Ebrill 2012