
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 21 Ebrill 2011.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno.
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno.
2 

(1) Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—
(a) Teitl II o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac yn ymwneud â labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion;
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000;
(c) Erthygl 113b o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ac Atodiad X1a i'r Rheoliad hwnnw, sy'n sefydlu trefn gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac yn ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer rhai cynhyrchion amaethyddol;
(d) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 566/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â marchnata cig anifeiliaid buchol sy'n 12 mis oed neu'n iau.
3 

(1) Mewn perthynas â chyflenwi drwy fanwerthu, gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.
(2) Fel arall, gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol, yr awdurdod iechyd porthladd a Gweinidogion Cymru.
4 

(1) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol yn neddfwriaeth yr UE yn euog o dramgwydd—
(a) y darpariaethau canlynol o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor–
(i) Erthygl 11 (gofyniad i labelu);
(ii) Erthygl 13(1) (rheolau cyffredinol);
(iii) Erthygl 13(2) (dynodiadau ar y label);
(iv) Erthygl 13(5) (gwybodaeth ychwanegol ar y label);
(v) Erthygl 14 (labelu briwgig eidion);
(vi) Erthygl 15 (cig eidion o drydydd gwledydd);
(vii) Erthygl 16(4) (labelu gwirfoddol);
(viii) Erthygl 17(1) (labelu cig eidion o drydydd gwledydd yn wirfoddol);
(b) y darpariaethau canlynol o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000—
(i) Erthygl 1 (olrheiniadwyedd);
(ii) Erthygl 2 (labelu);
(iii) Erthygl 4 (maint a chyfansoddiad grŵp);
(iv) Erthygl 5(2) (briwgig eidion);
(v) Erthygl 5a (tocion);
(vi) Erthygl 5b (cig a dorrwyd sydd wedi ei ragbecynnu);
(vii) Erthygl 5c (cig a dorrwyd sydd heb ei ragbecynnu);
(viii) Erthygl 6(3) (cig eidion mewn pecynnau bach i'w fanwerthu);
(ix) Erthygl 7 (mynediad i fangreoedd a chofnodion);
(c) y darpariaethau canlynol Rheoliad Cyngor (EC) Rhif 1234/2007—
(i) Erthygl 113b (marchnata cig anifeiliaid buchol 12 mis oed neu'n iau);
(ii) Paragraff II o Atodiad X1a (dosbarthu yn y lladd-dy);
(iii) Paragraff III o Atodiad X1a (disgrifiadau gwerthu);
(iv) Paragraff IV o Atodiad X1a (gwybodaeth orfodol ar y label);
(v) Paragraff V o Atodiad X1a (gwybodaeth opsiynol ar y label);
(vi) Paragraff VI o Atodiad X1a (cofnodi);
(vii) Paragraff VIII o Atodiad X1a (cig o drydydd gwledydd);
(d) y darpariaethau canlynol o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 566/2008—
(i) Erthygl 4(1) (gwybodaeth orfodol ar y label);
(ii) Erthygl 4(2) (dynodi oed);
(iii) Erthygl 5 (cofnodi gwybodaeth).
(2) At ddibenion paragraff IV(2) o Atodiad X1a i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol gael ei harddangos yn agos at y cig, fel y gall y defnyddiwr terfynol adnabod yr wybodaeth yn hawdd, a rhaid iddi fod yn eglur a darllenadwy.
(3) Rhaid dal gafael ar gofnodion (gan gynnwys cofnodion electronig) am gyfnod o 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn galendr y gwnaed y cofnod ynddi.
5 

(1) Pan fo cig eidion neu gig llo wedi ei labelu a'i farchnata mewn modd nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â'r cig eidion neu'r cig llo yn ei feddiant, gan wneud yn ofynnol—
(a) ail-labelu'r cig ar unwaith yn unol â'r Rheoliadau hyn, neu
(b) roi'r gorau ar unwaith i'w gynnig ar werth, hyd nes bo'r cig wedi ei ail-labelu yn unol â'r Rheoliadau hyn, neu'i waredu rywfodd arall,
a bydd unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw yn euog o dramgwydd.
(2) Rhaid i hysbysiad ddatgan bod hawl i apelio i lys ynadon, ac o fewn pa gyfnod y caniateir dwyn apêl.
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir oherwydd hysbysiad apelio i lys ynadon.
(4) Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980 yn gymwys i'r gweithrediadau.
(5) Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo yw un mis ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.
(6) Yn dilyn apêl, caiff y llys ddileu neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os bydd yn ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r cyfryw addasiadau ag y gwêl y llys yn dda o dan yr amgylchiadau.
(7) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad llys ynadon mewn apêl o dan y rheoliad hwn apelio i Lys y Goron.
6 

(1) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi, ar ôl dangos awdurdodiad dilysedig os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw awr resymol at y diben o ganfod–
(a) a oes, neu a fu yn y fangre honno unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b) a oes yn y fangre honno unrhyw dystiolaeth o unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y swyddog fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef, a ystyrir yn angenrheidiol gan y swyddog, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.
(3) Os bodlonir ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1), ac—
(a) bod mynediad i'r fangre honno wedi ei wrthod, neu y disgwylir gwrthodiad, a bod hysbysiad o'r bwriad i ofyn am warant wedi ei roi i'r meddiannydd,
(b) os byddai cais am gael mynediad yn tanseilio'r diben o fynd i mewn, neu
(c) os yw'r fangre'n wag, neu'r meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad, drwy warant lofnodedig, awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen.
(4) Bydd gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am un mis.
(5) Rhaid i swyddog sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn.
7 
Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn—
(a) archwilio unrhyw gig eidion neu gig llo sy'n bresennol yn y fangre honno;
(b) cymryd samplau o unrhyw gig eidion neu gig llo yn y fangre honno ac, os oes angen, anfon y samplau i'w profi;
(c) archwilio unrhyw labeli a chofnodion busnes perthnasol (gan gynnwys cofnodion electronig), y gall fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achosion o dan y Rheoliadau hyn.
8 
Mae unrhyw berson sydd—
(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith,
(b) heb esgus rhesymol, yn peidio â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdano neu amdani at y diben o gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, neu
(c) yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol,yn euog o dramgwydd.
9 

(1) Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd hwnnw wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd, a bydd yn agored i'w erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei fusnes gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
10 
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
11 
Dirymir Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig,
29 Mawrth 2011