
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2011.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “undeb llafur”.
(3) Yn rheoliad 5(1) (cyfarwyddwyr anweithredol), hepgorer is-baragraff (ch).
(4) Yn rheoliad 10 (terfynu deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), yn lle rheoliad 10(8), rhodder—“Os bydd y cyfarwyddwr anweithredol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn un o aelodau neu o gyflogeion corff sector gwirfoddol yng Nghymru, bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei benodiad yn gyfarwyddwr anweithredol.”.
(5) Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gweithdrefnau ar gyfer penodi'r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), yn lle “aelodau” rhodder “gyfarwyddwyr”.
(6) Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth), yn lle “yr aelodau” (llinell 3) rhodder “y cyfarwyddwyr” ac yn lle “aelodau” (llinell 7) rhodder “gyfarwyddwyr”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011