
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations” ) yw Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Dyfarnu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) 2011;
 ystyr “ceisydd” (“requester”) yw unrhyw berson—
(a) y mae'n rhaid darparu datganiad iddo o dan adran 10(4) o'r Mesur ac sy'n gofyn i awdurdod lleol i adolygu ei benderfyniad i osod ffi arno, neu
(b) y mae'n rhaid darparu datganiad iddo o dan reoliad 19 o'r Rheoliadau ac sy'n gofyn i awdurdod lleol i adolygu ei benderfyniad i ddyfarnu ar ad-daliad neu gyfraniad;
 ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw'r cyfnod sy'n cychwyn ar y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn cael cais am adolygiad ac sy'n dod i ben naill ai ar y dyddiad pan fo'r awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ar yr adolygiad i'r ceisydd neu'r dyddiad pan fo'r awdurdod lleol yn cael ei hysbysu bod y cais wedi ei dynnu'n ôl, pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf;
 ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad sydd ar fformat sy'n briodol i anghenion cyfathrebu'r ceisydd ac, os yw ceisydd wedi penodi cynrychiolydd, ei gynrychiolydd;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y Banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “ffi” (“charge”) yw ffi a osodir o dan adran 1 o'r Mesur;
 ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth y gellir codi ffi amdano fel y'i diffinnir gan adran 13 o'r Mesur;
 ystyr “taliadau gros” (“gross payments”) yw taliadau a wneir ar y raddfa honno y mae'r awdurdod yn amcangyfrif sydd yn gyfwerth â'r gost resymol o sicrhau darpariaeth o'r gwasanaeth o dan sylw;
 ystyr “ymweliad â'r cartref” (“home visit”) yw ymweliad a wneir gan swyddog priodol awdurdod lleol i breswyliad cyfredol ceisydd neu i fan arall y mae'r ceisydd yn rhesymol ofyn amdano; ac
 ystyr “yn ysgrifenedig” (“in writing”) yw unrhyw fynegiad sy'n eiriau neu'n ffigurau y gellir eu darllen, eu hatgynhyrchu ac yna'u cyfathrebu a gallai gynnwys gwybodaeth a drosglwyddwyd ac a storiwyd drwy gyfrwng electronig.
3 

(1) Caiff ceisydd ofyn am adolygu penderfyniad i osod arno neu ddyfarnu, mewn perthynas â gwasanaeth y mae'r ceisydd yn ei gael—
(a) ffi;
(b) ad-daliad; neu
(c) cyfraniad.
(2) Caiff cais ymwneud â'r amgylchiadau a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) —
(a) nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o'r dyletswyddau a osodwyd arno gan y Mesur neu gan reoliadau a wnaed odano;
(b) nad yw awdurdod lleol wedi cymhwyso'n gywir ei bolisi ei hun ar godi ffioedd wrth osod ffi, neu ddyfarnu ar ad-daliad neu gyfraniad;
(c) bod gwall wedi cael ei wneud wrth gyfrifo'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad;
(ch) bod ffi wedi cael ei gosod am wasanaeth na chafodd ar unrhyw adeg ei ddarparu i'r ceisydd;
(d) bod amgylchiadau ariannol y ceisydd wedi newid er pan gyfrifwyd y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad;
(dd) bod ceisydd yn ystyried nad oes ganddo'r modd ariannol i dalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad a byddai gwneud hynny'n peri caledi ariannol iddo.
(3) Rhaid i gais am adolygiad ddatgan pa un neu ragor o'r amgylchiadau a restrir ym mharagraff (2) neu unrhyw amgylchiadau eraill yw'r rheswm dros ofyn am yr adolygiad.
(4) Caniateir i gais gael ei wneud ar unrhyw adeg ar ôl i awdurdod lleol ddyroddi datganiad o dan—
(a) adran 10(4) o'r Mesur;
(b) rheoliad 19 o'r Rheoliadau.
(5) Caniateir i gais gael ei wneud i awdurdod lleol naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.
(6) Rhaid i awdurdod lleol benodi person (“person penodedig”) sy'n aelod o staff yr awdurdod lleol i ymdrin â'r adolygiad, a rhaid dehongli cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “berson penodedig” yn unol â hynny.
(7) Ni fydd rheoliadau 4 i 11 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn credu, yn rhesymol, na fu unrhyw newid perthnasol yn yr un o'r amgylchiadau a restrir ym mharagraff (2), a arweiniodd at gais blaenorol am adolygiad gan neu ar ran yr un person, a'r ceisydd heb ddatgan unrhyw amgylchiadau ychwanegol eraill.
(8) Pan fo paragraff (7) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod lleol anfon datganiad at y ceisydd, i ddatgan na fydd y cais am adolygiad yn cael ei ystyried gan yr awdurdod oherwydd bod yr awdurdod yn credu yn rhesymol—
(a) na fu unrhyw newid perthnasol yn yr un o'r amgylchiadau a restrir ym mharagraff (2), a arweiniodd at gais blaenorol am adolygiad gan neu ar ran yr un person; a
(b) nad yw'r ceisydd wedi datgan unrhyw amgylchiadau ychwanegol eraill.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff person sy'n gweithredu ar ran ceisydd (“cynrychiolydd”) ofyn am adolygiad ac mae cyfeiriadau at “cynrychiolydd” yn y Rheoliadau hyn i'w dehongli yn unol â hynny.
(2) Os yw'r ceisydd yn dymuno penodi cynrychiolydd i ofyn am adolygiad ar ran y ceisydd, rhaid i'r ceisydd roi ei awdurdodiad o'r penodiad i'r awdurdod lleol naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.
(3) Os yw'r awdurdod lleol yn cael awdurdodiad llafar neu ysgrifenedig y ceisydd, rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r ceisydd a'i gynrychiolydd ddatganiad yn cadarnhau bod y ceisydd wedi rhoi ei awdurdodiad llafar neu ysgrifenedig o'r penodiad.
(4) Pan fo cynrychiolydd wedi cael ei benodi yn unol â'r rheoliad hwn, caiff y cynrychiolydd weithredu ar ran y ceisydd am yr holl gyfnod adolygu onid yw awdurdodiad y ceisydd yn datgan fel arall neu fod y ceisydd wedi tynnu ei awdurdodiad yn ôl o dan baragraff (5).
(5) Caiff ceisydd dynnu ei awdurdodiad yn ôl drwy roi hysbysiad, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, i'r person penodedig.
(6) Pan fo cynrychiolydd wedi cael ei benodi yn unol â'r rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 5(1), 6(1)(h) ac (i), 7(1), 8(1), (2) a (5) a 9(2) at geisydd yn golygu cynrychiolydd y person hwnnw i'r graddau y mae'n gyson ag awdurdodiad y ceisydd.
5 

(1) Caniateir i gais gael ei dynnu'n ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig gan y ceisydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod adolygu.
(2) Dim ond i'r person penodedig y caniateir gofyn am dynnu cais yn ôl.
(3) Pan fo cais yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r ceisydd ac i unrhyw gynrychiolydd ddatganiad yn cadarnhau bod y cais wedi cael ei dynnu'n ôl ac o ganlyniad ni chymerir unrhyw gamau pellach ynglŷn ag ef.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael unrhyw gais sy'n cydymffurfio â rheoliad 3 anfon at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd ddatganiad yn datgan—
(a) y dyddiad y cafwyd y cais;
(b) natur y cais;
(c) os nad yw'r ceisydd eisoes wedi penodi cynrychiolydd, y caiff y ceisydd benodi cynrychiolydd i'w gynorthwyo ac i weithredu ar ei ran yn ystod yr holl gyfnod adolygu neu yn ystod rhan o'r cyfnod hwnnw;
(ch) sut y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal yr adolygiad;
(d) nad oes angen i'r ceisydd dalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu;
(dd) os bydd y ceisydd yn penderfynu peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu, bod rhaid i'r ceisydd neu unrhyw gynrychiolydd hysbysu'r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, am y penderfyniad hwnnw;
(e) a fydd yr awdurdod lleol, pe na bai ceisydd yn talu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu, yn ceisio adennill, ar ôl y cyfnod adolygu, unrhyw swm sydd wedi cronni ac sydd heb ei dalu yn ystod y cyfnod adolygu;
(f) os yw'r ceisydd wedi gofyn am adolygu cyfraniad ac wedi hysbysu'r awdurdod lleol na fydd yn talu'r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu, y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud taliadau gros i'r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu;
(ff) pa wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach (os oes rhai) sy'n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol oddi wrth y ceisydd er mwyn cynnal adolygiad a'r terfyn amser ar gyfer rhoi gwybodaeth neu ddogfennau o'r fath a bennir yn rheoliad 8;
(g) y byddai swyddog priodol o'r awdurdod lleol ar gael i ymweld â'r cartref at ddibenion casglu'r wybodaeth bellach neu'r dogfennau pellach;
(ng) y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â'r cartref;
(h) manylion cyswllt y person penodedig a fydd yn gyfrifol am ddarparu ymateb i unrhyw ymholiadau a all fod gan y ceisydd ynghylch yr adolygiad;
(i) manylion cyswllt unrhyw gorff a allai gynorthwyo'r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ynglŷn â'r adolygiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd o fewn pump o ddiwrnod gwaith ar ôl cael y cais.
7 

(1) Caiff y ceisydd ddewis rhoi unrhyw wybodaeth neu unrhyw ddogfennau sy'n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol yn ystod ymweliad â'r cartref, drwy hysbysu'r person penodedig naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.
(2) Os gwneir y dewis o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod lleol ymweld â'r cartref.
8 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw gwybodaeth bellach neu ddogfennau pellach yn rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol, rhaid i'r ceisydd roi'r wybodaeth bellach honno neu'r dogfennau pellach hynny i'r awdurdod lleol o fewn 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach.
(2) O fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), caiff y ceisydd ofyn i'r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, am estyniad amser i roi gwybodaeth bellach neu ddogfennau pellach.
(3) Dylai unrhyw gais am estyniad ddatgan y rheswm pam na ellir rhoi'r wybodaeth neu'r dogfennau sy'n ofynnol o fewn y cyfnod a bennir gan baragraff (1).
(4) Rhaid i awdurdod lleol ganiatáu unrhyw gais rhesymol am estyniad.
(5) Os caniateir estyniad gan yr awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol gadarnhau mewn datganiad a anfonir at y ceisydd—
(a) bod y terfyn amser ar gyfer rhoi'r wybodaeth bellach neu'r dogfennau pellach wedi cael ei estyn; a
(b) hyd yr estyniad hwnnw.
(6) Pe na bai'r awdurdod lleol yn cael yr wybodaeth bellach neu'r dogfennau pellach na chael cais am estyniad amser o fewn yr amser a bennir ym mharagraff (1), caiff drin y cais fel un a gafodd ei dynnu'n ôl.
(7) Os bydd paragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod lleol anfon datganiad at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd yn datgan—
(a) bod yr awdurdod lleol yn awr yn trin y cais fel un a gafodd ei dynnu'n ôl;
(b) bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn awr yn daladwy;
(c) y swm (os oes un) sydd wedi cronni a heb ei dalu gan y ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu; ac
(ch) os yw'r awdurdod lleol yn ceisio adennill unrhyw swm sydd wedi cronni oddi wrth y ceisydd, y swm y mae'n rhaid ei dalu a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid ei dalu.
9 

(1) Cyn gynted â phosibl, a beth bynnag o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael digon o wybodaeth a dogfennau i gynnal yr adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol—
(a) gwneud penderfyniad ar yr adolygiad a'r camau sy'n angenrheidiol i'w weithredu;
(b) anfon datganiad at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd i ddatgan—
(i) y penderfyniad;
(ii) y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;
(iii) bod gan y ceisydd hawl i wneud cwyn o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 os nad yw'n fodlon ar y penderfyniad;
(c) os cafodd ffi'r ceisydd ei diwygio o ganlyniad i'r adolygiad, rhoi datganiad i'r ceisydd sy'n cynnwys yr wybodaeth a osodir yn adran 10(4) o'r Mesur; ac
(ch) os cafodd ad-daliad neu gyfraniad y ceisydd eu diwygio o ganlyniad i'r adolygiad, rhoi datganiad i'r ceisydd sy'n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 19(2) o'r Rheoliadau.
(2) Os yw'r awdurdod lleol yn dod i'r casgliad nad yw'n gallu cyflawni ei waith cyn y dyddiad cau a bennir ym mharagraff (1), rhaid iddo cyn gynted â phosibl a beth bynnag o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) roi datganiad i'r ceisydd yn datgan—
(a) na fydd yn gallu rhoi penderfyniad cyn y dyddiad cau a bennir ym mharagraff (1);
(b) y rhesymau pam na all gydymffurfio â'r dyddiad cau hwnnw;
(c) y dyddiad erbyn pryd y bydd yn rhoi penderfyniad; ac
(ch) y caiff y ceisydd ddewis peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad am weddill y cyfnod adolygu drwy hysbysu'r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.
(3) Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r awdurdod lleol ystyried—
(a) manylion y cais;
(b) polisi presennol yr awdurdod lleol ar godi ffioedd;
(c) y Mesur;
(ch) y Rheoliadau;
(d) Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Dyfarnu Ffioedd) (Cymru) 2011;
(dd) Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011;
(e) unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970;
(f) incwm a threuliau'r ceisydd; ac
(g) unrhyw amgylchiadau, y rhai cyfredol a'r rhai y gellir eu rhagweld a allai effeithio ar allu'r ceisydd i dalu'r ffi.
(4) Bernir bod datganiad wedi ei ddarparu o dan baragraff (1) ar y dyddiad y dyroddir ef gan yr awdurdod lleol.
10 

(1) Os gwneir cais, caiff y ceisydd ddewis peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfan o'r cyfnod adolygu ond bydd unrhyw swm sydd heb ei dalu yn cronni.
(2) Os gwneir y dewis o dan baragraff (1) rhaid i'r ceisydd hysbysu'r awdurdod lleol ynghylch ei ddewis, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael datganiad o dan reoliad 6(1).
(3) Os yw awdurdod lleol yn anfon datganiad at y ceisydd o dan reoliad 9(2), caiff y ceisydd ddewis peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y gweddill o'r cyfnod adolygu, ac ni fydd unrhyw swm nas telir yn ystod gweddill y cyfnod adolygu yn cronni.
(4) Os gwneir y dewis o dan baragraff (3) rhaid i'r ceisydd hysbysu'r awdurdod lleol ynghylch ei ddewis, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael datganiad o dan reoliad 9(2)
(5) Pan hysbysir awdurdod lleol na fydd y ceisydd yn talu ei gyfraniad yn ystod y cyfan neu'r gweddill o'r cyfnod adolygu, rhaid i'r awdurdod lleol wneud taliadau gros i'r ceisydd yn ystod–
(a) y cyfan o'r cyfnod adolygu os gwneir y dewis o dan baragraff (1); neu
(b) y gweddill o'r cyfnod adolygu os gwneir y dewis o dan baragraff (3).
(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), caiff awdurdod lleol adennill unrhyw swm sydd heb ei dalu sydd wedi cronni yn ystod y cyfnod adolygu o dan baragraff (1) ar ôl y cyfnod adolygu.
(7) Y swm sydd wedi cronni y caniateir ei adennill o dan baragraff (6) yw swm y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu sy'n gywir o dan reoliad 9(1)(a).
(8) Ni chaiff awdurdod lleol adennill unrhyw ffi, ad-daliad neu gyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, nas talwyd rhwng anfon datganiad o dan reoliad 9(2) a diwedd y cyfnod adolygu.
(9) Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad y dylai'r ceisydd ei dalu yn llai na'r un a osodwyd yn flaenorol ar y ceisydd, rhaid i'r awdurdod lleol o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith ar ôl anfon ei benderfyniad at y ceisydd, dalu i'r ceisydd y gwahaniaeth rhwng y swm a ddylai fod yn daladwy a'r swm, os oes un, sydd eisoes wedi ei dalu gan y ceisydd.
(10) Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod y swm a ddylai fod yn daladwy gan y ceisydd yn fwy na'r un a osodwyd yn flaenorol ar y ceisydd, caiff yr awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i baragraff (8), adennill y gwahaniaeth rhwng swm y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad a ddylai fod yn daladwy a'r swm, os oes un, sydd eisoes wedi ei dalu gan y ceisydd.
(11) Ni all y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei dalu o dan baragraff (9) neu y caiff ei adennill o dan baragraff (10), pan fo swm y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad wedi cael ei ddiwygio oherwydd newid yn amgylchiadau ariannol y ceisydd, ymwneud ag unrhyw gyfnod o amser cyn y newid hwnnw yn yr amgylchiadau ariannol.
(12) Wrth adennill unrhyw swm oddi wrth y ceisydd o dan baragraff (6) neu (10) —
(a) rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i amgylchiadau ariannol personol y ceisydd; a
(b) rhaid i'r awdurdod lleol gael ei fodloni na fydd adennill y swm yn peri bod y ceisydd yn dioddef caledi ariannol; neu
(c) os yw'r awdurdod lleol yn credu y byddai adennill y swm yn peri bod y ceisydd yn dioddef caledi ariannol, rhaid iddo gynnig y dewis i'r ceisydd i ad-dalu'r swm mewn rhandaliadau cyfnodol.
11 
Pan fo cais wedi ei wneud, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, am adolygiad ar ffi, ad-daliad neu gyfraniad ond na chafodd ei benderfynu hyd yma gan yr awdurdod lleol, caiff yr awdurdod lleol barhau â'r adolygiad ac nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r adolygiad hwnnw ac eithrio bod yn rhaid i'r awdurdod lleol anfon penderfyniad at y ceisydd o fewn tri mis ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
24 Mawrth 2011