
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
2 

(1) 28 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—
(a) adran 15 (dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal ac eraill), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 19 (cymorth i blant sy'n cael eu lletya);
(c) adran 29 (hysbysu am faterion sy'n ymwneud â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi plant etc), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(ch) adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r canlynol—
(i) diddymu'r darpariaethau yn adran 104 o Ddeddf 1989 a bennir yn yr Atodlen honno, a
(ii) diddymu'r darpariaethau yn adran 21 o Ddeddf 2000 a bennir yn yr Atodlen honno.
(2) 1 Medi 2011 yw'r diwrnod penodedig i adran 20 o'r Ddeddf (aelod dynodedig o'r staff mewn ysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol) ddod i rym o ran Cymru, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth2011