
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 ac maent yn dod i rym ar 31 Mawrth 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(6) o Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011;
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004;
 ystyr “sefydliad tramor” (“overseas institution”) yw sefydliad heblaw un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
3 
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, at ddibenion adran 28 o Ddeddf 2004, rhagnodir y swm sylfaenol yn £4,000 a'r swm uwch yn £9,000.
4 
At ddibenion adran 28 o Ddeddf 2004 rhagnodir y swm sylfaenol yn £2,000 a'r swm uwch yn £4,500 yn yr achosion a ganlyn:
(a) blwyddyn academaidd derfynol cwrs os yw'n ofynnol i'r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b) mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—
(i) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;
(ch) mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor, blwyddyn academaidd—
(i) pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2011