
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004.
3 
Rhaid i gynllun o dan adran 33(1) o Ddeddf 2004 osod amcanion y sefydliad, y penderfynwyd arnynt gan ei gorff llywodraethu, mewn perthynas â'r canlynol—
(a) hybu cyfle cyfartal; a
(b) hybu addysg uwch.
4 
Rhaid i gynllun gynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r sefydliad—
(a) ymgymryd â'r mesurau a nodir yn y cynllun er mwyn denu nifer fwy o geisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy'n aelodau o grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol iddynt mewn addysg uwch ar yr adeg y cymeradwyir y cynllun, neu sicrhau yr ymgymerir â'r mesurau hynny a nodir yn y cynllun;
(b) darparu cymorth ariannol a nodir yn y cynllun ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs yn y sefydliad, neu sicrhau bod y cymorth ariannol hwnnw yn cael ei ddarparu;
(c) gwneud y trefniadau a nodir yn y cynllun i roi ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs yn y sefydliad a darpar fyfyrwyr sy'n dymuno ymgymryd â chwrs o'r fath wybodaeth ynghylch cymorth ariannol sydd ar gael iddynt o unrhyw ffynhonnell;
(ch) gwneud y trefniadau a nodir yn y cynllun i roi gwybod i unrhyw ddarpar fyfyriwr cyn i'r myfyriwr ymrwymo i ymgymryd â chwrs yn y sefydliad am swm agregedig y ffioedd y bydd y sefydliad yn eu codi am gwblhau'r cwrs;
(d) monitro, yn y dull a nodir yn y cynllun, gydymffurfiad y corff â darpariaethau'r cynllun a'r cynnydd y mae'n ei wneud tuag at gyflawni ei amcanion a nodir yn y cynllun yn unol â rheoliad 3; ac
(dd) darparu i'r awdurdod perthnasol yr wybodaeth honno y mae'n rhesymol i'r awdurdod perthnasol ofyn amdani o bryd i'w gilydd.
5 
Rhaid i'r awdurdod perthnasol arfer ei swyddogaethau'n unol â'r weithdrefn a ganlyn os yw corff llywodraethu sefydliad yn gwneud cais i'r awdurdod perthnasol am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig:—
(a) rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i'r corff llywodraethu cyn pen cyfnod rhesymol o amser a yw'r awdurdod perthnasol yn cymeradwyo'r cynllun neu a yw â'i fryd ar beidio â chymeradwyo'r cynllun, gan roi rhesymau yn yr achos olaf hwn;
(b) os yw'r awdurdod perthnasol yn rhoi gwybod i'r corff llywodraethu o dan baragraff (a) ei fod â'i fryd ar beidio â chymeradwyo'r cynllun, rhaid iddo roi gwybod i'r corff llywodraethu y caiff, cyn pen cyfnod rhesymol o amser, wneud y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
(i) gwneud sylwadau i'r awdurdod perthnasol o ran pam y dylai'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r cynllun, neu
(ii) addasu'r cynllun;
(c) os yw'r corff llywodraethu'n gweithredu'n unol â pharagraff (b), rhaid i'r awdurdod perthnasol, cyn pen cyfnod rhesymol o amser, ystyried y sylwadau neu'r addasiadau (neu'r sylwadau a'r addasiadau) i'r cynllun ac, ar ôl iddo eu hystyried, roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw'n cymeradwyo'r cynllun ai peidio;
(ch) os nad yw'r corff llywodraethu'n gweithredu'n unol â pharagraff (b) cyn pen cyfnod rhesymol o amser, rhaid i'r awdurdod perthnasol, cyn pen cyfnod rhesymol pellach o amser, roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw'n cymeradwyo'r cynllun ai peidio.
6 
Wrth wneud unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â chymeradwyo cynllun, rhaid i'r awdurdod perthnasol roi sylw—
(a) i ddiogelu mynediad teg at addysg uwch; a
(b) i ddymunoldeb amddiffyn rhyddid academaidd ac yn benodol ryddid sefydliadau i benderfynu—
(i) ar gynnwys cyrsiau penodol a'r modd y cânt eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu;
(ii) ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr a phenderfynu i gymhwyso'r meini prawf hynny mewn achosion penodol.
7 
Os yw'r awdurdod perthnasol wedi cymeradwyo cynllun, rhaid i'r sefydliad ei gyhoeddi mewn dull sy'n ei wneud yn hwylus o hygyrch i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr.
8 
Dwy flynedd yw'r cyfnod hwyaf o amser y caniateir i gynllun sydd wedi ei gymeradwyo fod mewn grym.
9 
Caiff y corff llywodraethu ar unrhyw adeg cyn pen y cyfnod y mae cynllun wedi ei gymeradwyo mewn grym wneud cais i'r awdurdod perthnasol am gymeradwyaeth i amrywiad ar y cynllun. Os bydd y corff llywodraethu'n gwneud cais, y weithdrefn fel a nodir yn rheoliadau 5, 6 a 7 yw'r weithdrefn i'w dilyn, fel pe rhoddid yn lle pob enghraifft o'r gair “cynllun” yn y rheoliadau hynny y gair “amrywiad” .
10 

(1) Yn y rheoliad hwn ystyr “gofyniad” yw gofyniad a bennir yn adran 28(1)(a) neu (c) o Ddeddf 2004.
(2) Rhaid i'r awdurdod perthnasol weithredu'n unol â'r weithdrefn a ganlyn mewn cysylltiad â rhoi unrhyw hysbysiad o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004–
(a) os yw'r awdurdod perthnasol o'r farn y gall corff llywodraethu sefydliad fod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad, rhaid iddo roi gwybod i'r corff llywodraethu am y ffaith honno, gan nodi'r gofyniad yn benodol, a rhoi i'r corff llywodraethu gyfnod rhesymol o amser ar gyfer gwneud sylwadau;
(b) os yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen y cyfnod priodol, rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried y sylwadau ac, ar ôl eu hystyried, roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad, ac os felly, rhaid iddo nodi'r gofyniad yn benodol;
(c) os nad yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen y cyfnod priodol, rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad, ac os felly, rhaid iddo nodi'r gofyniad yn benodol;
(ch) os yw'r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad penodedig, caiff roi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod â'i fryd ar hysbysu'r corff llywodraethu o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004 y bydd yn gwrthod cymeradwyo, yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, gynllun newydd o dan adran 34 o Ddeddf 2004, pan ddaw'r cynllun presennol i ben;
(d) os yw'r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu o dan baragraff (ch), rhaid iddo roi i'r corff llywodraethu gyfnod rhesymol o amser ar gyfer gwneud sylwadau ynghylch canlyniadau ariannol gwrthod cymeradwyo cynllun newydd;
(dd) os yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen y cyfnod priodol, rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried y sylwadau ac, ar ôl eu hystyried, os oedd yr awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod â'i fryd ar hysbysu'r corff llywodraethu o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004, rhaid iddo naill ai hysbysu'r corff llywodraethu felly neu roi gwybod i'r corff llywodraethu na fydd yn cyhoeddi hysbysiad o'r fath;
(e) os nad yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen cyfnod rhesymol o amser, os oedd yr awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod â'i fryd ar hysbysu'r corff llywodraethu o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004, rhaid iddo naill ai hysbysu'r corff llywodraethu felly neu roi gwybod i'r corff llywodraethu na fydd yn cyhoeddi hysbysiad o'r fath.
(3) Un flwyddyn yw'r cyfnod hwyaf a ragnodir at ddibenion hysbysiad a roddir yn unol ag adran 38(1) o Ddeddf 2004.
11 
Mae unrhyw un neu ragor o'r penderfyniadau canlynol a wnaed gan yr awdurdod perthnasol yn cael effaith yn y lle cyntaf fel penderfyniad dros dro —
(a) unrhyw benderfyniad i gymeradwyo cynllun o dan reoliad 5(a) ac unrhyw benderfyniad i gymeradwyo neu i beidio â chymeradwyo cynllun o dan reoliad 5(c) neu (ch);
(b) unrhyw benderfyniad i gymeradwyo neu i beidio â chymeradwyo amrywiad o dan reoliad 9;
(c) unrhyw benderfyniad gorfodi o dan reoliad 10(2)(b), (c), (dd) neu (e).
12 
Caiff corff llywodraethu'r sefydliad wneud cais i berson neu banel o bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru am adolygiad o benderfyniad dros dro a wnaed gan yr awdurdod perthnasol.
13 
Mae penderfyniad dros dro yn newid yn benderfyniad terfynol os yw'r corff llywodraethu'n rhoi gwybod i'r awdurdod perthnasol ei fod yn derbyn y penderfyniad dros dro neu os nad yw'r corff llywodraethu'n gwneud cais am adolygiad yn unol â rheoliad 12 cyn pen 40 o ddiwrnodau calendr ar ôl dyddiad y penderfyniad.
14 
Os yw'r corff llywodraethu'n gwneud cais am adolygiad o benderfyniad dros dro yn unol â rheoliad 12, rhaid i'r awdurdod perthnasol ailystyried ei benderfyniad dros dro gan roi sylw i unrhyw argymhelliad a wnaed o ganlyniad i'r adolygiad a rhaid iddo gyhoeddi penderfyniad terfynol cyn pen cyfnod rhesymol o amser.
15 
Ar y seiliau canlynol y caniateir gwneud cais am adolygiad o benderfyniad dros dro—
(a) mae'r corff llywodraethu'n cyflwyno ffactor perthnasol i'w ystyried nad oedd wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod perthnasol o'r blaen am reswm da;
(b) mae'r corff llywodraethu o'r farn bod yr awdurdod perthnasol wedi diystyru ffactor perthnasol y dylai fod wedi ei ystyried; neu
(c) mae'r corff llywodraethu o'r farn bod y penderfyniad dros dro yn anghymesur yng ngoleuni'r holl ffeithiau perthnasol a gafodd eu hystyried gan yr awdurdod perthnasol.
16 
Y person neu'r panel o bersonau a benodwyd gan Weinidogion Cymru sydd i ymgymryd â'r adolygiad o'r penderfyniad dros dro.
17 
Wrth benodi'r person neu'r panel o bersonau rhaid i Weinidogion Cymru weithredu'n unol â'r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn Awst 2009.
18 
Caiff Gweinidogion Cymru dalu cydnabyddiaeth a lwfansau i unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 12.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2011