
1 
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011;
(b) deuant i rym ar 6 Ebrill 2011; ac
(c) maent yn gymwys o ran cosbau a roddir gan—
(i) awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru;
(ii) Asiantaeth yr Amgylchedd mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru; a
(iii) Gweinidogion Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
 ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 15(1) o'r Ddeddf mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad o dan adran 14(1) neu (3) o'r Ddeddf i ddarparu gwybodaeth;
 ystyr “hysbysiad o gosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad gan awdurdod o dan adran 15(3) o'r Ddeddf sy'n rhoi cosb i berson sy'n methu â darparu gwybodaeth a bennir mewn hysbysiad gorfodi yn y cyfnod penodedig.
3 
Caiff person y rhoddwyd cosb iddo gan hysbysiad o gosb apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y gosb.
4 
At ddibenion rheol 22(2)(g) o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009, y seiliau dros apelio yw—
(a) bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad o gosb wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c) bod swm y gosb yn afresymol;
(ch) unrhyw reswm arall.
5 
Rhaid i'r canlynol fynd gyda hysbysiad o apêl o dan reol 22 o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (yn ychwanegol at fod yn rhaid i'r hysbysiad gydymffurfio â gofynion y Rheolau hynny)—
(a) copi o'r hysbysiad gorfodi;
(b) copïau o unrhyw sylwadau a wnaed o dan adran 15(2)(c) o'r Ddeddf;
(c) copi o'r hysbysiad o gosb.
6 
Rhaid i awdurdod sy'n cael hysbysiad o apêl gan berson y mae wedi rhoi cosb iddo beidio â chymryd camau i adennill y gosb ar ffurf dyled hyd oni ddyfernir ar yr apêl neu hyd oni chaiff ei thynnu'n ôl.
7 
Pan benderfynir ar apêl o dan reoliad 3, rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai—
(a) cadarnhau'r gosb;
(b) lleihau'r gosb; neu
(c) dileu'r gosb.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2011