
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989.
3 
£2,000 yw “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) sydd wedi ei ragnodi at ddibenion adran 23C(5A) o Ddeddf 1989.
4 

(1) Mae ystyr “addysg uwch” (“higher education”) wedi ei ragnodi at ddibenion adran 23C(5A) o Ddeddf 1989 i olygu cwrs addysg sydd—
(a) yn un o'r canlynol—
(i) gradd gyntaf;
(ii) cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;
(iii) cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch y Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban;
(iv) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(v) cwrs ar gyfer hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned;
(vi) cwrs (nad yw'n ofynnol fel rheol cael gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol i gael mynediad iddo) i baratoi ar gyfer arholiad proffesiynol ar lefel uwch;
(b) yn un sy'n para am ddwy flynedd academaidd o leiaf (fel cwrs amser-llawn neu fel cwrs rhan-amser sydd wedi ei fynegi fel un sy'n gyfwerth ag amser llawn); ac
(c) wedi ei ddynodi gan neu o dan Reoliadau a wnaed o dan adran 22(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ar y dyddiad y mae'r cyn blentyn perthnasol yn dechrau'r cwrs.
(2) At ddibenion is-baragraff (vi) mae arholiad ar lefel uwch yn un y mae ei safon yn uwch na'r canlynol—
(a) yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
(b) yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
5 

(1) Caiff yr awdurdod lleol dalu'r swm perthnasol i gyn blentyn perthnasol fel cyfandaliad neu drwy randaliadau.
(2) Yn achos cyn blentyn perthnasol a ddechreuodd addysg uwch ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011—
(a) os yw'r swm perthnasol i'w dalu fel cyfandaliad, rhaid iddo gael ei dalu erbyn 30 Mehefin 2011; a
(b) os yw'r swm perthnasol i'w dalu drwy randaliadau—
(i) rhaid i'r rhandaliad cyntaf gael ei dalu erbyn 30 Mehefin 2011; a
(ii) rhaid i'r rhandaliad terfynol gael ei dalu cyn diwedd y cwrs neu heb fod yn fwy na phedair wythnos ar ôl dechrau pedwaredd flwyddyn y cwrs, p'un bynnag yw'r cynharaf.
(3) Yn achos cyn blentyn perthnasol sy'n dechrau addysg uwch ar neu ar ôl 1 Medi 2011—
(a) os yw'r swm perthnasol i'w dalu fel cyfandaliad, rhaid iddo gael ei dalu erbyn 31 Rhagfyr 2011 neu heb fod yn fwy na thri mis ar ôl dechrau'r cwrs, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a
(b) os yw'r swm perthnasol i'w dalu drwy randaliadau—
(i) rhaid i'r rhandaliad cyntaf gael ei dalu erbyn 31 Rhagfyr 2011 neu heb fod yn fwy na thri mis ar ôl dechrau'r cwrs, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a
(ii) rhaid i'r rhandaliad terfynol gael ei dalu cyn diwedd y cwrs neu heb fod yn fwy na phedair wythnos ar ôl dechrau pedwaredd flwyddyn y cwrs, p'un bynnag yw'r cynharaf.
(4) Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch talu'r swm perthnasol o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddarganfod beth yw dymuniadau a theimladau'r cyn blentyn perthnasol a rhoi ystyriaeth briodol iddynt.
(5) Caiff yr awdurdod lleol atal talu unrhyw ran weddilliol o'r swm perthnasol sydd heb ei thalu yn ystod unrhyw gyfnod pan nad yw'r cyn blentyn perthnasol yn dilyn addysg uwch yn unol â'r cynllun llwybr ar ei gyfer.
6 
Caiff yr awdurdod lleol adennill y cyfan o'r swm perthnasol neu unrhyw ran ohono oddi wrth berson y mae taliad wedi ei wneud iddo os yw camgymeriad wedi ei wneud ynglŷn â chymhwystra'r person hwnnw i gael y taliad.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2011