
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “Credyd Treth i Blant” a “Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio” yr ystyr a roddir i “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002;
 ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth wedi ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002; ac
 ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Peidio â chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003.
3 

(1) Yn lle rheoliad 4 o Reoliadau 2003 rhodder–“
4 
Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Deddf 1996–
(a) pan fo gan riant C hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio; a
(b) pan fo rhiant C yn cael Treth Credyd i Blant yn rhinwedd dyfarniad sydd wedi ei seilio ar incwm blynyddol nad yw'n uwch na'r swm o £16,190.”.
(2) Ar ôl rheoliad 4 o Reoliadau 2003 mewnosoder—“
5 
Mae Credyd Pensiwn y Wladwriaeth sy'n daladwy o dan adran 1 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 mewn amgylchiadau pan yw'r rhiant yn derbyn y credyd gwarant.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2011