
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2) o reoliad 2—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (ch), hepgorer y gair “a”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (d), rhodder “; ac” yn lle'r atalnod llawn; ac
(c) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(dd) ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “fruit juice from concentrate”, os yw'n cydymffurfio â'r lefel Brix ofynnol a bennir yn Atodlen 6, o'i darllen ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno.”.
(3) Yn rheoliad 5—
(a) yn lle paragraff (ch) rhodder—“
(ch) yn achos—
(i) cymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd sydd wedi ei farcio neu wedi ei labelu â'r un disgrifiad neilltuedig “fruit juice” (neu ddisgrifiad arall o'r fath y mae'n ofynnol ei gael yn lle'r disgrifiad “fruit juice” yn unol â'r amodau sy'n rhagflaenu Colofn 1 (disgrifiadau neilltuedig) yn Atodlen 1), neu
(ii) neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig,
bod ei labelu yn dwyn y geiriau “partially from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially from concentrates”, bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;”; a
(b) yn lle paragraff (d) rhodder—“
(d) yn achos neithdar ffrwythau a gafwyd yn gyfan gwbl o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig, y mae ei labelu yn dwyn y geiriau “from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “from concentrates”, a bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;”.
(4) Yn Atodlen 1—
(a) yng ngholofn 2 o eitem 3 (Fruit juice from concentrate), mewnosoder ar y diwedd—“
 Mae'r lefelau Brix gofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd wedi eu nodi yn Atodlen 6.”; a
(b) yng ngholofn 2 o eitem 5 (Fruit nectar), yn lle “Atodlen 4” rhodder “Atodlen 5” yn y naill le a'r llall.
(5) Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder Atodlen 6 fel y mae wedi ei osod yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2011
YR ATODLEN
Rheoliad 2(5)

“
ATODLEN 6
Rheoliad 2 ac Atodlen 1


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Enw Cyffredin y Ffrwyth Yr Enw Botanegol Y lefel gradd Brix ofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd (h.y. ar gyfer sudd ffrwythau ailansoddedig a phiwrî ffrwythau ailansoddedig)
Afal (*) Malus domestica Borkh. 11.2
Bricyll (**) Prunus armeniaca L. 11.2
Banana (**) Musasp. 21.0
Cyrains duon (*) Ribes nigrum L. 11.6
Grawnwin (*) Vitis vinifera L. neu hybridiau ohono Vitis labrusca L. neu hybridiau ohono 15.9
Grawnffrwyth (*) Citrus x paradise Macfad. 10.0
Gwafa (**) Psidium guajava L. 9.5
Lemon (*) Citrus limon (L.) Burm.f. 8.0
Mandarin (*) Citrus reticulataBlanco 11.2
Mango (**) Mangifera indica L. 15.0
Oren (*) Citrus sinensis (L.) Osbeck 11.2
Ffrwyth y Dioddefaint (*) Passiflora edulis Sims 13.5
Eirin gwlanog (**) Prunus persica (L.) Batsch var. Persica 10.0
Gellyg (**) Pyrus communis L. 11.9
Pinafal (*) Ananas comosus (L.) Merr. 12.8
Mafon (*) Rubus idaeus L. 7.0
Ceirios Sur (*) Prunus cerasus L. 13.5
Mefus (*) Fragaria x ananassa Duch. 7.0
Nodiadau:
1. Os yw sudd o ddwysfwyd wedi ei weithgynhyrchu o ffrwyth nad yw wedi ei grybwyll yn y rhestr uchod, lefel Brix y sudd fel y'i hechdynnwyd o'r ffrwyth a ddefnyddiwyd i wneud y dwysfwyd fydd lefel Brix ofynnol y sudd ailansoddedig.
2. Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â seren (*), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel sudd, penderfynir dwysedd cymharol ofynnol fel y cyfryw mewn perthynas â dŵr sy'n 20/20°C.
3. Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â dwy seren (**), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel piwrî, dim ond darlleniad Brix gofynnol nas cywirwyd (heb ei gywiro ar gyfer asidedd) a benderfynir.
4. Mewn cysylltiad â chyrains duon, gwafa, mango a ffrwyth y dioddefaint, dim ond i sudd ffrwythau ailansoddedig a phiwrî ffrwythau ailansoddedig sydd wedi eu cynhyrchu yn yr UE y mae'r lefelau gradd Brix gofynnol yn gymwys.”
