
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
(a) nid yw “yr awdurdodau Cymreig” (“the Welsh authorities”) yn cynnwys Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn;
(b) ystyr “strategaeth tlodi plant” (“child poverty strategy”) yw strategaeth fel a nodir yn adran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
3 

(1) Rhaid i'r strategaeth tlodi plant gyntaf fod mewn perthynas â'r cyfnod o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2014.
(2) Rhaid i'r strategaethau sy'n dilyn fod mewn perthynas â'r cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fo cyfnod y strategaeth flaenorol yn dod i ben.
4 

(1) Mae'r strategaeth tlodi plant gyntaf i gael ei chyhoeddi ar 31 Mawrth 2012 neu cyn hynny.
(2) Rhaid i'r strategaethau sy'n dilyn gael eu cyhoeddi ar 1 Ebrill, neu cyn hynny, yn y flwyddyn pan fo cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth honno'n cychwyn yn unol â rheoliad 3(2).
5 

(1) Rhaid i awdurdod Cymreig gyhoeddi strategaeth drwy ei rhoi ar ei wefan ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth.
(2) Rhaid i awdurdod Cymreig hefyd drefnu bod y strategaeth ar gael i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd—
(i) yn swyddfeydd yr awdurdod; a
(ii) mewn unrhyw fan priodol arall.
6 

(1) Rhaid cwblhau adolygiad o'r strategaeth gyntaf a ymgymerir gan awdurdod Cymreig erbyn 31 Mawrth 2014.
(2) Mae pob strategaeth sy'n dilyn i'w hadolygu bob 3 blynedd wedi hyn.
(3) Rhaid i'r awdurdod Cymreig gyhoeddi adroddiad o'r adolygiad drwy ei roi ar ei wefan.
7 
Rhaid i awdurdod Cymreig, cyn cyhoeddi strategaeth, ymgynghori â Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a phersonau eraill sydd, yn nhyb yr awdurdod Cymreig, yn briodol.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2011